Newyddion http://dataunitwales.gov.uk/cym/news http://www.rssboard.org/rss-specification mojoPortal Blog Module cy-GB 120 no Newyddion Diweddaraf InfoBase - Chwefror IBC Logo

Yma fe welwch yr holl newyddion InfoBase gan gynnwys diweddariadau ar y system a’i chynnwys.

Hawl i’r Lwfans Gweini (chwarter diweddaraf, 2023)

Mae data Hawl i’r Lwfans Gweini am Fehefin – Awst 2023 ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan Adran Gwaith a Phensiynau (AGPh).

Cyfrif hawlwyr (Ionawr 2024)

Mae’r data am Ionawr 2024 ar nifer y bobl o oedran gweithio sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

Prisiau tai cyfartalog (Rhagfyr 2024)

Mae’r data ar gyfer Rhagfyr 2024 am brisiau tai cyfartalog ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan y Gofrestrfa Tir yn ddiweddar.

Statws cyflogaeth – anweithgarwch economaidd ac eithrio myfyrwyr (rhyddhad Ionawr 2024)

Mae’r amcangyfrifon diweddaraf (Hydref 2022 – Medi 2023) o statws cyflogaeth ar gyfer anweithgarwch economaidd ac eithrio myfyrwyr nawr ar gael yn dilyn diweddariad diweddar yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol.

Bydd y diweddariad nesaf ar gael ym mis Ebrill 2024.


y Golygydd / the Editor]]>
http://dataunitwales.gov.uk/cym/newyddion-diweddaraf-infobase-february-2024 editor@dataunitwales.gov.uk (y Golygydd / the Editor) http://dataunitwales.gov.uk/cym/newyddion-diweddaraf-infobase-february-2024 http://dataunitwales.gov.uk/cym/newyddion-diweddaraf-infobase-february-2024 Thu, 29 Feb 2024 09:30:00 GMT
Deall tlodi plant Data Unit Logo

Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi ein dangosfwrdd ‘Plant mewn tlodi’, sy'n dod â data ynghyd i’ch helpu i ddeall faint o blant sy’n byw mewn tlodi ledled Cymru a sut mae hyn wedi newid dros amser.

Mae’r dangosfwrdd yn caniatáu ichi weld y data ar lefel awdurdod lleol Cymru a’r DU.

Mae’r data’n seiliedig ar fodel a gynhyrchwyd gan y Glymblaid Dileu Tlodi Plant (Saesneg yn unig).


y Golygydd / the Editor]]>
http://dataunitwales.gov.uk/cym/understanding-child-poverty editor@dataunitwales.gov.uk (y Golygydd / the Editor) http://dataunitwales.gov.uk/cym/understanding-child-poverty http://dataunitwales.gov.uk/cym/understanding-child-poverty Wed, 01 Feb 2023 14:18:00 GMT
Deall data chwyddiant Data Unit Logo

Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi ein dangosfwrdd, sy’n dod â data chwyddiant ynghyd mewn un man i’ch helpu i ddeall y tueddiadau allweddol.

Mae effaith chwyddiant yn rhywbeth rydym ni i gyd yn ei theimlo. Ond nid pob pris sydd wedi codi ar yr un gyfradd.

Mae’r dangosfwrdd yn gadael i chi edrych ar y data yn ôl categorïau ac is-gategorïau i’ch helpu i ddeall pa nwyddau a gwasanaethau sy’n gyrru codiadau mewn prisiau.


y Golygydd / the Editor]]>
http://dataunitwales.gov.uk/cym/understanding-inflation-data editor@dataunitwales.gov.uk (y Golygydd / the Editor) http://dataunitwales.gov.uk/cym/understanding-inflation-data http://dataunitwales.gov.uk/cym/understanding-inflation-data Wed, 14 Dec 2022 09:55:00 GMT
Cyfrifiad 2021 – ethnigrwydd, hunaniaeth, iaith a data crefydd People_population

Cyhoeddwyd y bedwaredd rownd o ddata o gyfrifiad 2021 ar 29 Tachwedd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae data ar gael ar lefel awdurdod lleol ac ardal leol. Mae'n cynnwys:

  • Ethnigrwydd
  • Hunaniaeth
  • Iaith
  • Crefydd

Mae'r data hwn ar gael yn ddwyieithog yn InfoBaseCymru.

Am ragor o wybodaeth am ddata’r cyfrifiad, cysylltwch â Sam Sullivan.


y Golygydd / the Editor]]>
http://dataunitwales.gov.uk/cym/census-2021-ethnicity-identity-language-and-religion-data editor@dataunitwales.gov.uk (y Golygydd / the Editor) http://dataunitwales.gov.uk/cym/census-2021-ethnicity-identity-language-and-religion-data http://dataunitwales.gov.uk/cym/census-2021-ethnicity-identity-language-and-religion-data Wed, 30 Nov 2022 10:00:00 GMT
Cyfrifiad 2021 –data demograffeg a mudo ar gael nawr… People_population

Ar 2 Tachwedd cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr ail rownd o ddata o gyfrifiad 2021.

Mae data demograffeg a mudo ar gael ar lefel awdurdodau lleol ac ardaloedd lleol. Mae’n cynnwys:

  • Pob aelwyd
  • Blwyddyn cyrraedd y DU
  • Hyd preswylio yn y DU
  • Pasbortau a ddelir
  • Gwlad enedigol
  • Poblogaeth breswyl arferol
  • Dwysedd poblogaeth
  • Strwythur oedran (bandiau oedran pum mlynedd) yn ôl rhyw
  • Statws priodasol
  • Strwythur oedran.

I’ch helpu i ddefnyddio a deall y data, rydym ni wedi:

Am ragor o wybodaeth am ddata’r cyfrifiad cysylltwch â Sam Sullivan.


y Golygydd / the Editor]]>
http://dataunitwales.gov.uk/cym/census-2021-demography-and-migration-data-is-now-available editor@dataunitwales.gov.uk (y Golygydd / the Editor) http://dataunitwales.gov.uk/cym/census-2021-demography-and-migration-data-is-now-available http://dataunitwales.gov.uk/cym/census-2021-demography-and-migration-data-is-now-available Thu, 10 Nov 2022 10:00:00 GMT
Cymunedau Ymarfer â Ffocws ar Ddata: cymerwch ran Knowledge

Mae’n bleser gennym gyhoeddi lansiad y ddwy gyntaf yn ein cyfres o Gymunedau Ymarfer â ffocws ar ddata. Nod y cymunedau hyn yw galluogi rhannu gwybodaeth, yn gadarnhaol ac yn adeiladol, ledled sector cyhoeddus Cymru am bob peth yn ymwneud â data. A hoffem ni eich gwahodd chi / eich sefydliad i gymryd rhan.

Mae’r rhai cyntaf o’r Cymunedau Ymarfer, yn canolbwyntio ar:

  • PowerBI; a
  • Gwella mynediad i ddata.

Mae Cymuned Ymarfer PowerBI ar gyfer unigolion sy’n gweithio yn sector cyhoeddus Cymru sector ac yn defnyddio PowerBI i greu a rhannu delweddiadau data, neu sy’n awyddus i wneud hynny. Fel aelod o’r gymuned, byddwch yn gallu creu cysylltiadau â defnyddwyr eraill PowerBI, rhannu gwybodaeth, gofyn cwestiynau a meithrin sgiliau.

Yn yr un modd, mae Cymuned Ymarfer Gwella mynediad i ddata ar gyfer unigolion sy’n gweithio yn sector cyhoeddus Cymru ac sydd am annog a hwyluso mynediad gwell i ddata. Fel aelod o’r gymuned hon, byddwch yn creu cysylltiadau â chydweithwyr o’r un anian er mwyn rhannu, datblygu a hyrwyddo arfer da mewn perthynas â mynediad i ddata a rhannu data.

Felly, os credwch y byddech chi’n elwa o fod yn rhan o’r cymunedau newydd cyffrous hyn, cymerwch gip ar ein tudalen we Cymunedau Ymarfer webpage am fanylion sut mae cymryd rhan.

Edrychwn ymlaen at gysylltu â chi.


y Golygydd / the Editor]]>
http://dataunitwales.gov.uk/cym/data-focused-communities-of-practice-cop-get-involved editor@dataunitwales.gov.uk (y Golygydd / the Editor) http://dataunitwales.gov.uk/cym/data-focused-communities-of-practice-cop-get-involved http://dataunitwales.gov.uk/cym/data-focused-communities-of-practice-cop-get-involved Wed, 07 Sep 2022 10:30:00 GMT
Cyfrifiad 2021 – dull newydd, data newydd, ac allbynnau newydd People_population

Cyhoeddwyd y gyfran gyntaf o ddata o gyfrifiad 2021 ar 28 Mehefin gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Mae data ar gael ar lefel awdurdodau lleol ac yn cynnwys

  • Poblogaeth breswyl arferol yn ôl rhyw a grŵp oedran 5-mlynedd;
  • Dwysedd y boblogaeth breswyl arferol; a
  • Nifer yr aelwydydd.

I’ch helpu i ddefnyddio a deall y data, rydym wedi datblygu cyfres o adnoddau, sy’n cynnwys:

Am ragor o wybodaeth am ddata’r cyfrifiad, cysylltwch â Sam Sullivan.


y Golygydd / the Editor]]>
http://dataunitwales.gov.uk/cym/census-2021-new-approach-new-data-and-new-outputs editor@dataunitwales.gov.uk (y Golygydd / the Editor) http://dataunitwales.gov.uk/cym/census-2021-new-approach-new-data-and-new-outputs http://dataunitwales.gov.uk/cym/census-2021-new-approach-new-data-and-new-outputs Tue, 28 Jun 2022 16:00:00 GMT
Meithrin capasiti - rhaglen hyfforddiant Data Unit Logo

Ydych chi’n awyddus i ddysgu mwy am gasglu a defnyddio data? Ydych chi’n gweithio gyda data ac eisiau cael rhagor o werth ohono? Ydych chi’n ystyried ehangu’ch sgiliau?

Rydym ni wedi datblygu cyfres o gyrsiau hyfforddiant a fydd yn eich cyflwyno i:

  • Ystadegau cryno
  • Cyflwyno data
  • Dylunio a dadansoddi arolygon
  • Cynllunio a chyflwyno grwpiau ffocws.

 

Mae cyrsiau wedi'u hanelu at gydweithwyr llywodraeth leol. Sylwch fod uchafswm o ddau gynrychiolydd y cyngor. I gyd-fynd â’r hyfforddiant hwn, byddwn yn cyhoeddi cyfres o arweiniadau yn ogystal. Cynhaliwn ni 16 o sesiynau am ddim drwy gydol y flwyddyn; un o bob un y chwarter! 

Gallwch chi gadw lle ar ein cyrsiau trwy gyfrwng Tocyn Cymru, ein partner trefnu lleoedd.

Dewis arall, os oes gennych bedwar neu fwy o bobl o un sefydliad sy’n ymddiddori mewn mynychu cwrs, yw i ni gyflwyno’r hyfforddiant i chi ar adeg a dyddiad sy’n addas i chi, a fydd efallai’n fwy cyfleus a chost-effeithiol. Cysylltwch â Sam Sullivan os hoffech chi drafod eich gofynion chi’n fanylach.


y Golygydd / the Editor]]>
http://dataunitwales.gov.uk/cym/capacity-building-training-programme editor@dataunitwales.gov.uk (y Golygydd / the Editor) http://dataunitwales.gov.uk/cym/capacity-building-training-programme http://dataunitwales.gov.uk/cym/capacity-building-training-programme Tue, 31 May 2022 10:39:00 GMT
Deall data llesiant Cymru Data Unit Logo

Rydym wedi cyhoeddi ein dangosfwrdd data llesiant Cymru.

Mae dangosfwrdd yn rhoi gwybodaeth am y cynnydd tuag at y nodau llesiant cenedlaethol gan gynnwys:

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru Iachach
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus
  • Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynu
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Dangosir data, lle bo’n bosibl, ar lefel awdurdodau lleol. Pan nad yw data lleol ar gael, dangosir data ar lefel Cymru. Ei nod yw helpu defnyddwyr i ddeall y sefyllfa bresennol mewn perthynas â phob un o’r dangosyddion a sut mae hyn yn amrywio dros amser a thros Gymru.

O’r dudalen hafan gallwch chi ddewis unrhyw rai o’r nodau llesiant. Dangosir gwybodaeth am lesiant yn yr ardal honno i chi gan ddefnyddio chwech o fesurau’r nod dan sylw. Yna gallwch chi ddewis edrych ar yr holl ddata am y nod hwnnw neu ddewis nod arall.


y Golygydd / the Editor]]>
http://dataunitwales.gov.uk/cym/understanding-well-being-of-wales-data editor@dataunitwales.gov.uk (y Golygydd / the Editor) http://dataunitwales.gov.uk/cym/understanding-well-being-of-wales-data http://dataunitwales.gov.uk/cym/understanding-well-being-of-wales-data Tue, 01 Mar 2022 13:48:00 GMT
Rydym wrth ein bodd i lansio’n rhaglen hyfforddiant ar-lein! Data Unit Logo

Rydym wrth ein bodd i lansio amrediad o gyfleoedd hyfforddiant fel rhan o’n rhaglen adeiladu capasiti.

Mae ein cyrsiau hyfforddiant yn cael eu harwain gan arbenigwyr yn eu maes a byddant yn cael eu cyflwyno ar-lein.

Cymerwch eich amser i bori trwy ein cyfres o gyrsiau hyfforddiant, sy’n hoelio sylw ar:

I gyd-fynd â’r hyfforddiant hwn, byddwn yn cyhoeddi cyfres o arweiniadau hefyd.

Gallwch chi gadw lle ar ein cyrsiau trwy gyfrwng Tocyn Cymru, ein partner trefnu lleoedd. Dewis arall, os oes gennych bedwar neu fwy o bobl o un sefydliad sy’n ymddiddori mewn mynychu cwrs, yw i ni gyflwyno’r hyfforddiant i chi ar adeg a dyddiad sy’n addas i chi, a fydd efallai’n fwy cyfleus a chost-effeithiol.

Cysylltwch â Sam Sullivan os hoffech chi drafod eich gofynion chi’n fanylach.


y Golygydd / the Editor]]>
http://dataunitwales.gov.uk/cym/launch-of-online-training-programme editor@dataunitwales.gov.uk (y Golygydd / the Editor) http://dataunitwales.gov.uk/cym/launch-of-online-training-programme http://dataunitwales.gov.uk/cym/launch-of-online-training-programme Wed, 09 Feb 2022 20:04:00 GMT
Cyfarchion y tymor wrth Data Cymru


y Golygydd / the Editor]]>
http://dataunitwales.gov.uk/cym/seasons-greetings-from-Data-Cymru-2021 editor@dataunitwales.gov.uk (y Golygydd / the Editor) http://dataunitwales.gov.uk/cym/seasons-greetings-from-Data-Cymru-2021 http://dataunitwales.gov.uk/cym/seasons-greetings-from-Data-Cymru-2021 Mon, 13 Dec 2021 09:00:00 GMT
‘Hysbysu ac Ysbrydoli’ – rhaglen weminarau DataCymru

“Does dim y fath beth â methiant, dim ond profiadau dysgu” – Anon.

Heddiw rydym wedi lansio ein rhaglen ddigwyddiadau gweminar, sy’n bwriadu hysbysu ac ysbrydoli.

Yn ein gweminar cyntaf, “Deall gofynion sgiliau’r dyfodol: data ar gyfer y chwyldro gwyrdd”, bydd ein cydweithiwr Dan yn siarad am ei ymchwil mewn perthynas â’r galwadau am sgiliau sy’n debygol o godi gyda thwf cyflym yr economi werdd. Ymunwch â ni i ddysgu mwy am yr ymchwil, y data isorweddol ac archwilio rhai o’r prif ganfyddiadau.


y Golygydd / the Editor]]>
http://dataunitwales.gov.uk/cym/inform-and-inspire-webinar-programme editor@dataunitwales.gov.uk (y Golygydd / the Editor) http://dataunitwales.gov.uk/cym/inform-and-inspire-webinar-programme http://dataunitwales.gov.uk/cym/inform-and-inspire-webinar-programme Sun, 24 Oct 2021 18:52:00 GMT
Ydych chi am ddeall pa awdurdod lleol, ward neu fwrdd iechyd lleol mae cod post ynddo? DataCymru

Rydym ni wedi cyhoeddi tabl cyfeirio daeryddiaethau i’ch helpu i ddeall pa awdurdod lleol, ward neu fwrdd iechyd lleol mae cod post ynddo. Rydym wedi trefnu bod hwn ar gael o ganlyniad i alw gan ddefnyddwyr a oedd yn dymuno defnyddio’r wybodaeth hon e.e. canolfannau brechu, er mwyn deall pa awdurdod lleol /bwrdd iechyd lleol mae cod post rhywun yn perthyn iddo.

Mae’r tabl hwn yn cynnwys enwau, disgrifiadau, a chodau adnabod daearyddiaethau ystadegol Cymru, o’r cod post trwodd i’r bwrdd iechyd lleol, a sut maent yn ymwneud â’i gilydd.

Mae’r data yn cael ei ddiweddaru’n chwarterol yn dilyn cyhoeddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Gallwch weld y tabl yn ein hofferynnau DataAgoredCymru ac InfoBaseCymru.


y Golygydd / the Editor]]>
http://dataunitwales.gov.uk/cym/geography-lookup-table editor@dataunitwales.gov.uk (y Golygydd / the Editor) http://dataunitwales.gov.uk/cym/geography-lookup-table http://dataunitwales.gov.uk/cym/geography-lookup-table Wed, 06 Oct 2021 08:02:00 GMT
Diweddariad 2021 Llefydd Llewyrchus Cymru ar gael nawr Thriving Places Wales logo

Mae diweddariad 2021 Llefydd Llewyrchus Cymru ar gael nawr. Mae’r offeryn yn cynnig mesur o lefel bresenoldeb yr amodau sy’n cefnogi llesiant ar draws ardaloedd awdurdodau lleol.

Mae’r sgoriau’n mesur amodau ar gyfer llesiant ledled Cymru ar lefel ardaloedd awdurdodau lleol. Nid ydynt yn adlewyrchu perfformiad unrhyw sefydliad, na grŵp o sefydliadau, o fewn yr ardaloedd hyn.

Mae’r offeryn, a ddatblygwyd ar y cyd â’r Ganolfan dros Lefydd Llewyrchus (Saesneg yn unig), yn cynnig fframwaith adrodd cadarn i gefnogi’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau i ddeall llesiant yn eu hardal nhw.

Seilir yr offeryn ar flynyddoedd lawer o waith datblygu mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr o bob rhan o’r byd, academyddion, ymarferwyr a chymunedau lleol amrywiol. Yr amodau sydd wedi’u cynnwys y fframwaith yw’r rhai y dangoswyd eu bod bwysicaf i unigolion, cymunedau ac ardaloedd ffynnu. Maent yn diffinio llesiant cynaliadwy fel rhywbeth sy’n cynnig cyfleoedd cyfartal i ffynnu i’r genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae’r offeryn yn cynnig golwg amgen ar lesiant o’i gymharu â mynegeion sy’n seiliedig ar arian ac amddifadedd.

Mae dadansoddiad hefyd i gyd-fynd â’r sgoriau a gall defnyddwyr greu cerdyn sgôr pdf am eu hardal awdurdod lleol eu hun.

Fel ag erioed, os hoffech gael rhagor o gymorth gyda’r data, os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr offeryn neu eisiau cefnogaeth i helpu i’w sefydlu yn eich man gwaith chi, cysylltu â Duncan Mackenzie.


y Golygydd / the Editor]]>
http://dataunitwales.gov.uk/cym/2021-thriving-places-wales-update-now-available editor@dataunitwales.gov.uk (y Golygydd / the Editor) http://dataunitwales.gov.uk/cym/2021-thriving-places-wales-update-now-available http://dataunitwales.gov.uk/cym/2021-thriving-places-wales-update-now-available Thu, 30 Sep 2021 08:30:00 GMT
CACI yn cynnig segmentiad data am ddim i gwsmeriaid DataCymru

Mae CACI wedi cysylltu â ni gyda chynnig i gefnogi awdurdodau lleol Cymru yn yr amseroedd unigryw hyn. Mae CACI yn cynhyrchu amrediad o setiau data masnachol, gan gynnwys Acorn, Household Acorn, Wellbeing Acorn a Vulnerability Indicators, sy’n gallu cael eu defnyddio i ddeall eich cymunedau’n well ar lefel daearyddiaethau bach.

Mae’r rhain ar gael ar sail fasnachol fel arfer, ond mae CACI bellach yn trefnu bod y data hwn ar gael am ddim i awdurdodau lleol a sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr, i’ch helpu i nodi pobl agored i niwed yn eich cymunedau. Mae’r cynnig hwn yn ymestyn tan ddiwedd mis Chwefror 2021 i ddechrau a bydd yn ymdrin â gwaith sy'n gysylltiedig â COVID yn unig. Fe fydd urhyw gytundeb yn y dyfodol rhyngoch chi a CACI.

Mae rhagor o wybodaeth am gael gafael ar y data hwn ar gael ar wefan (Saesneg yn unig), CACI, gan gynnwys manylion am sut i gofrestru.

Sylwch: os ydych chi eisoes yn rhan o’r cytundeb consortiwm presennol sydd gennym ni â CACI, mae’r cynnig hwn yn sefyll ar wahân i’r cytundeb hwnnw ac ni fydd yn cael unrhyw effaith arno.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysylltwch â CACI drwy eu gwefan (Saesneg yn unig) neu â Duncan MacKenzie.


y Golygydd / the Editor]]>
http://dataunitwales.gov.uk/cym/caci-offers-free-customer-segmentation-data editor@dataunitwales.gov.uk (y Golygydd / the Editor) http://dataunitwales.gov.uk/cym/caci-offers-free-customer-segmentation-data http://dataunitwales.gov.uk/cym/caci-offers-free-customer-segmentation-data Tue, 12 Jan 2021 12:10:00 GMT
Proffilio Lleoedd Cymru: Diweddariad Mawrth! Rydym wedi lansio’r datganiad diweddaraf i’n hofferyn Proffilio Lleoedd Cymru.

Nod yr offeryn yw cefnogi awdurdodau lleol Cymru, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a’u partneriaid i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau, deall sut mae lleoedd yn newid dros amser a deall llesiant ar lefel gymunedol yn well. Mae’r offeryn yn cynnwys data am 192 o ddaearyddiaethau Ardal Adeiledig (BUA) gyda poblogaeth Cyfrifiad 2011 o 2,000 neu fwy.

Yn sgîl lansiad llwyddiannus ein hofferyn yn 2019, rydym wedi parhau i ddiweddaru a datblygu’r offeryn ymhellach, mae’r datganiad diweddaraf yn cynnwys:

  • mapio gorsafoedd trenau a data am gymudwyr;
  • cysylltu’r gwasanaethau iechyd a llesiant lleol â chyfeiriadur Dewis Cymru;
  • ychwanegu data MALlC 2019;
  • gwelliannau i fetadata’r Cyfrifiad; yn ogystal â
  • diweddariadau ymarferol eraill.

Mae gennym gynlluniau cyffrous yn yr arfaeth ar gyfer yr offeryn, gyda ffocws hirdymor ar ei botensial i gefnogi deall y data sy’n deillio o Gyfrifiad 2021. Yn y cyfamser, byddwn yn chwilio am fewnbwn oddi wrth ddefnyddwyr wrth i ni geisio ychwanegu rhagor o ddata ac estyn ei ymarferoldeb.

Os oes gennych unrhyw feddyliau neu syniadau, neu os hoffech sgwrsio am yr offeryn, cysylltwch ag Tom.brame @data.cymru.


y Golygydd / the Editor]]>
http://dataunitwales.gov.uk/cym/profiling-places-wales-march-update editor@dataunitwales.gov.uk (y Golygydd / the Editor) http://dataunitwales.gov.uk/cym/profiling-places-wales-march-update http://dataunitwales.gov.uk/cym/profiling-places-wales-march-update Mon, 02 Mar 2020 09:30:00 GMT
Mae data Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019 ar gael bellach yn InfoBaseCymru IBC Logo

Mae graddau Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Is Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) a data’r dangosyddion ar gael bellach yn InfoBaseCymru.

Mae 1,909 o’r Ardaloedd hyn yng Nghymru, ar draws y 22 awdurdod lleol. Maent yn cael eu graddio o’r mwyaf amddifad i’r lleiaf amddifad yn erbyn yr wyth parth amddifadedd (Incwm, Cyflogaeth, Iechyd, Addysg, Mynediad i Wasanaethau, Diogelwch Cymunedol, yr Amgylchedd Ffisegol a Thai) yn ogystal ag am eu hamddifadedd cyffredinol.

Mae pob parth yn cynnwys nifer o ddangosyddion ac mae data am y dangosyddion ar gael hefyd ochr yn ochr â graddau’r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Is.

Mae’r data a’r graddau yn ffynhonnell werthfawr gwybodaeth er mwyn i awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus, y sawl sy’n llunio polisi a’r cyhoedd ddeall sut mae amddifadedd yn bodoli ledled Cymru.

I gyrchu’r data, ewch i InfoBaseCymru.


y Golygydd / the Editor]]>
http://dataunitwales.gov.uk/cym/2019-wimd-data-is-now-available-in-infobasecymru editor@dataunitwales.gov.uk (y Golygydd / the Editor) http://dataunitwales.gov.uk/cym/2019-wimd-data-is-now-available-in-infobasecymru http://dataunitwales.gov.uk/cym/2019-wimd-data-is-now-available-in-infobasecymru Fri, 03 Jan 2020 09:24:00 GMT
Data nofio am ddim (Awst 2019 - Medi 2019) ar gael bellach

Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos codiad o 7% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


y Golygydd / the Editor]]>
http://dataunitwales.gov.uk/cym/free-swimming-data-aug-sept2019-is-now-available editor@dataunitwales.gov.uk (y Golygydd / the Editor) http://dataunitwales.gov.uk/cym/free-swimming-data-aug-sept2019-is-now-available http://dataunitwales.gov.uk/cym/free-swimming-data-aug-sept2019-is-now-available Mon, 16 Dec 2019 21:05:00 GMT
Data nofio am ddim (Mehefin - Gorffennaf 2019) ar gael bellach

Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos codiad o 14% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


y Golygydd / the Editor]]>
http://dataunitwales.gov.uk/cym/free-swimming-data-june-july-2019-is-now-available editor@dataunitwales.gov.uk (y Golygydd / the Editor) http://dataunitwales.gov.uk/cym/free-swimming-data-june-july-2019-is-now-available http://dataunitwales.gov.uk/cym/free-swimming-data-june-july-2019-is-now-available Mon, 07 Oct 2019 08:30:00 GMT
Proffilio Lleoedd Cymru: Diweddariad Medi Rydym wedi lansio’r datganiad diweddaraf i’n hofferyn Proffilio Lleoedd Cymru.

Nod yr offeryn yw cefnogi awdurdodau lleol Cymru, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a’u partneriaid i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau, deall sut mae lleoedd yn newid dros amser a deall llesiant ar lefel gymunedol yn well. Mae’r offeryn yn cynnwys data am 192 o ddaearyddiaethau Ardal Adeiledig yr oedd ganddynt boblogaeth, adeg Cyfrifiad 2011, o 2,000 neu fwy.

Yn sgîl lansiad llwyddiannus ein hofferyn beta yn gynharach eleni, rydym wedi parhau i dderbyn adborth gwerthfawr sydd wedi ein helpu i ddiweddaru a datblygu’r offeryn ymhellach, gan gynnwys:

  • Ychwanegu data am wasanaethau iechyd a llesiant;
  • Ychwanegu mwy o fapiau ar lefel LSOA i gynnig dadansoddiad am ardaloedd mwy o faint;
  • Y gallu i allforio neu argraffu siartiau at ddibenion adrodd; yn ogystal â
  • Diweddariadau mwy ffwythiannol.

Mae gennym gynlluniau cyffrous yn yr arfaeth ar gyfer yr offeryn, gyda ffocws hirdymor ar ei botensial i gefnogi deall y data sy’n deillio o Gyfrifiad 2021. Yn y cyfamser, byddwn yn chwilio am fewnbwn oddi wrth ddefnyddwyr wrth i ni geisio ychwanegu rhagor o ddata ac estyn ei ymarferoldeb.

Os oes gennych unrhyw feddyliau neu syniadau, neu os hoffech sgwrsio am yr offeryn, cysylltwch ag Tom.brame @data.cymru.


y Golygydd / the Editor]]>
http://dataunitwales.gov.uk/cym/profiling-places-wales-september-update editor@dataunitwales.gov.uk (y Golygydd / the Editor) http://dataunitwales.gov.uk/cym/profiling-places-wales-september-update http://dataunitwales.gov.uk/cym/profiling-places-wales-september-update Mon, 30 Sep 2019 12:47:00 GMT