• This website is available in English

DataBasicCymru: Y gwersi rwy wedi’u dysgu…

Blog

Wrth i ni lansio ein rhaglen hyfforddiant DataBasicCymru a’n pecyn hyfforddiant DataBasicCymru+, a gafodd eu datblygu mewn partneriaeth â Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) a Data Orchard, roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n rhannu â chi’r dair prif wers rwyf i wedi’u dysgu o gael fy nhrochi yn natblygiad DataBasicCymru dros y 18 mis diwethaf.

 

1. Mae gennym ni i gyd rywbeth i’w ddysgu

Blog

Rwy’n eitha hyddysg o ran data – rwy wedi gweithio i Data Cymru am ‘lawer’ o flynyddoedd mewn amrywiaeth o rolau felly hoffwn i feddwl fy mod i’n gwybod peth neu ddau am ddata. Yn y cyfnod hwn rwy wedi casglu data, dilysu data, dadansoddi data, cyflwyno data, defnyddio data a chynghori eraill ar sut i gasglu, defnyddio data ac ati. Serch hynny, gadawes i sesiwn peilot cyntaf un rhaglen DataBasic (lle roeddwn i’n rhannol yn hwylusydd, rhannol yn ddysgwr) yn teimlo…wedi f’ysbrydoli! Gwnaeth rhai o’r ymarferion ddim ond atgyfnerthu fy ngwybodaeth (wrth gasglu data, mae diffiniadau clir yn bwysig iawn); roedd eraill yn nodiadau atgoffa defnyddiol (cymerwch amser i ddeall eich cynulleidfa a’ch neges wrth gyflwyno data) a dysgodd eraill driciau newydd i mi (mae yna fwy i ledaenu data na ffeithluniau a dangosfyrddau). Mae gan DataBasicCymru rywbeth i’w gynnig i bawb, p’un a ydych chi’n ddechreuwr neu’n ‘gîc’ hunanaddefedig fel fi.

2. Hyder yw’r allwedd!

Blog

Os ydych chi’n bwriadu adeiladu diwylliant data o fewn eich sefydliad, mae angen i chi wneud yn siŵr bod gan yr holl staff, beth bynnag eu rôl ac ni waeth pa mor uchel maen nhw, yr hyder i ryngweithio â data. Yr allwedd i hyn yw sicrhau bod yr holl staff yn deall hanfodion data a sut i’w ddefnyddio’n effeithiol. Wedi’r cyfan, dyma’r sgiliau ‘sylfaenol’ y bydd eich diwylliant data yn cael eu seilio arnyn nhw.

Fel mae’r enw yn awgrymu, mae DataBasicCymru yn canolbwyntio ar y sgiliau ‘sylfaenol’ mae eu hangen arnon ni i gyd i allu defnyddio data yn effeithiol. Yn holl-bwysig, mae’n gwneud hynny mewn ffyrdd difyr a chreadigol – mae’r mwyafrif o’r gweithdai yn dibynnu ar ben, papur ac, yn bwysicach oll, eich dychymyg (ac, ar brydiau, play-doh)! Mae’r offerynnau sy’n cael eu cynnwys yn y rhaglen yn hawdd iawn eu defnyddio ac maen nhw yno dim ond i wneud beth allai fod yn dasgau ymarferol cymhleth yn llawer haws (gadewch i ni fod yn onest, ‘does neb eisiau cyfrif faint o weithiau mae Katy Perry yn dweud ‘Love’ yn ei hôl-gatalog cyfan).

Mae data wedi cael hwb yn ddiweddar dan yr amgylchiadau mwyaf annhebygol. Er na fu gormod o agweddau positif ar bandemig COVID-19 dros y 12 mis diwethaf, mae’n rhaid bod cydnabyddiaeth o’r rôl bwysig mae data yn ei chwarae mewn helpu i lywio polisi a hysbysu’r cyhoedd yn un. Mae mwy o sgyrsiau’n digwydd ynglŷn â data nag erioed o’r blaen – gadewch i ni adeiladu ar hyn gyda’n gilydd. Sleid nesaf, os gwelwch yn dda!

3. Stopiwch, cydweithiwch a gwrandewch

Blog

Rydyn ni i gyd yn gweld pethau’n wahanol – nid yw data’n wahanol yn hynny o beth. Mae rhai pobl yn fwy dadansoddol – mae deall y safbwyntiau gwahanol hyn a sut maen nhw’n effeithio ar ein rhyngweithio â data yn allweddol i wella’r ffordd rydych chi’n mynd at i weithio gyda data.

Dyna pam mae pecyn hyfforddiant DataBasicCymru wedi’i seilio ar egwyddor rhannu dysgu. Mae’n gweithio orau pan fydd llawer o bobl o fewn neu ar draws sefydliadau yn mynd drwy’r gweithdai gyda’i gilydd. Mae gwrando ar bobl eraill a dysgu ohonyn nhw yn gwneud i chi ystyried safbwyntiau nad oeddech chi efallai wedi meddwl amdanyn nhw o’r blaen – mae’n gallu eich helpu i weld pethau nad oeddech wedi’u gweld o’r blaen, gofyn cwestiynau nad oeddech chi o bosib wedi meddwl am eu gofyn ac, o ganlyniad, rhoi cynnig ar ddulliau gwahanol o ddadansoddi a/neu gyflwyno data na fyddech chi wedi’u ceisio o’r blaen.

Wrth gwrs mae sgiliau pendant casglu, dadansoddi a chyflwyno data y byddwch chi’n eu dysgu drwy gymryd rhan yn y rhaglen hyfforddiant yma. Ond, efallai’n bwysicach, byddwch chi wedi cymryd cam pwysig tuag at ddatblygu’ch diwylliant data chi – un sy’n seiliedig ar sicrhau bod gan bawb yr hyder a’r gallu i ymwneud â data yn fwy effeithiol.

I ddysgu mwy am DataBasicCymru ac i gymryd rhan, gweler ein gwefan.

Ynglŷn â’r awdur

Suzanne Draper

Suzanne yw’n harweinydd strategol am gasglu a llywodraethu data, gyda chyfrifoldeb cyffredinol dros lywodraethu data a’n holl waith casglu data, rheoli perfformiad a meincnodi.

Cyswllt

029 2090 9516

Suzanne.Draper@data.cymru

Postio gan
y Golygydd / the Editor
10/06/2021