• This website is available in English

Pumed Digwyddiad Hysbysrwydd Cenedlaethol yn taro’r nod, eto!

Daeth mwy na 100 o gynrychiolwyr i’n pumed Digwyddiad Hysbysrwydd Cenedlaethol – Cynllunio gyda’n gilydd i wella llesiant lleol: Beth sy’n gweithio? ddydd Iau 2 Mawrth 2017 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Clywodd y cynadleddwyr oddi wrth amrediad o siaradwyr gan gynnwys Christopher Stevens, Pennaeth Cangen Cynllunio a Phartneriaeth a Claire Germain Pennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru. Hefyd clywsom oddi wrth Liz Zeidler, Prif Weithredwr Happy City. Rhannodd Liz brofiadau Happy City gan gynnwys eu dulliau a’u hymagweddau at lesiant cynaliadwy i bawb.

Roedd nifer o sesiynau grwpiau trafod gyda siaradwyr o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, Prifygsol Coventry, Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, Prifysgol Caerdydd, Swyddfa’r Comisiynydd Plant, Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn, Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Sefydliad Cymdeithas, Iechyd a Llesiant Caerdydd (CISHeW).

Daeth Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, â’r diwrnod i ben gan rannu ei meddyliau ar yr asesiadau drafft ar lesiant lleol a’i disgwyliadau am y flwyddyn o’n blaen. Dilynwyd hyn gan sesiwn holi ac ateb gyda’r Comisiynydd.

Mae’r adborth o’r digwyddiad wedi bod yn gadarnhaol iawn hyd yma. Mae’r cyflwyniadau ar gael ar ein gwefan.

Postio gan
y Golygydd / the Editor
06/03/2017
Categorïau: NIE