• This website is available in English

I ffwrdd i’r gwaith a ni…

WfBGwyddom i gyd mai gweithlu corff yw ei ased mwyaf gwerthfawr. Mae hyn yn arbennig o wir yn y sector cyhoeddus lle mae’r mwyafrif o weithwyr yn uniongyrchol gyfrifol am gefnogi unigolion a chymunedau i ffynnu. O ddarparu addysg o’r radd flaenaf i’ch plant a gwneud yn siŵr bod eich ardal leol yn ddiogel ac yn lân, i sicrhau bod y sawl sydd angen gofal a chymorth yn eu derbyn, mae’r unigolion hyn yn chwarae rhan allweddol mewn ein helpu ni i gyflawni llesiant. Oni fyddai’n braf gwybod mwy am y gweithlu sy’n chwarae rhan mor bwysig yn ein bywydau ni i gyd? Wel, does dim angen edrych ymhellach…

Cysylltu’r enwau â’r wynebau…

Wel, ddim yn union, ond yr wythnos hon rydym ni wedi cyhoeddi set ddata ‘Gweithlu awdurdodau lleol’ newydd yn InfoBaseCymru. Mae’r set ddata, a welir dan thema ‘Llywodraeth leol’, yn rhoi rhywfaint o wybodaeth bennawd am weithlu pob un o awdurdodau lleol Cymru, gan gynnwys eu hoedran, eu rhywedd a’u cyflog. Bydd yn eich helpu i ddeall nodweddion y gweithlu presennol a sut allai’r sefyllfa newid yn y dyfodol.

Ac yn ogystal…

Mae’r data wedi cael ei gyhoeddi fel data agored o dan delerau Trwydded Llywodraeth Agored (OGL), sy’n golygu bod y data yn glir ac yn hygyrch er mwyn i unrhyw un gael ei ddefnyddio, ei ailddefnyddio a/neu ei ddefnyddio at ddiben arall yn rhad ac am ddim ac mewn unrhyw fformat a ddewisant.

Mae’n rhan o fenter ehangach i ddatgelu data am y gweithlu ar draws y sector cyhoeddus i gyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r un wybodaeth am eu gweithlu hwythau hefyd a disgwyliwn i gyrff eraill drefnu bod eu data ar gael yn ystod y misoedd nesaf. Mae gwybodaeth bellach am y fenter hon ar gael ym mlog ‘Data a Digidol’ diweddar Llywodraeth Cymru.

Gallwch weld data gweithlu awdurdodau lleol yn InfoBaseCymru.

Mae data Llywodraeth Cymru ar gael yn StatsWales.

Postio gan
y Golygydd / the Editor
31/07/2018
Categorïau: Diweddariadau data