• This website is available in English

Wedi ei lansio - ‘Proffilio Lleoedd Cymru’ – Deall y lleoedd lle rydym yn byw ac yn gweithio

Rydym wrth ein bodd ein bod wedi lansio aelod diweddaraf ein teulu o offer data – ProffilioLleoedd.Cymru

Mae tystiolaeth ar sail lle yn hanfodol, i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau ac i ddeall sut mae lleoedd yn newid dros amser. Mae hyn wedi denu ffocws cryfach mewn gwaith diweddar er mwyn deall llesiant ar lefel cymunedau’n well.

Mae creu darlun o le a gallu gwahaniaethu ei nodweddion rhag nodweddion lleoedd eraill yn dod â’i heriau. Yn gyntaf, sut orau mae diffinio ein lleoedd mewn modd cyson, ar yr un pryd â darparu gwybodaeth ar sail ddaearyddol y bydd defnyddwyr gwasanaethau (a dinasyddion) yn eu hadnabod fel trefi, cymunedau, ac ati. Yn ail, her y data meintiol dibynadwy cyfyngedig sydd ar gael ar lefel islaw awdurdodau lleol.

Rydym wedi treulio’r 18 mis diwethaf yn edrych ar beth allai fod yn bosibl, gan gynnwys datblygu offeryn peilot llwyddiannus fel ‘prawf o’r cysyniad’ yn gynnar yn 2018.

IO ran diffinio ‘lle’, rydym wedi defnyddio daearyddiaeth Ardaloedd Adeiledig y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a phenderfynu ar boblogaeth o 2,000 neu fwy yn ôl Cyfrifiad 2011. Ar gyfer y fersiwn beta, rydym wedi cynnwys set gychwynol o ddata am le. Lle bu’n bosibl rydym wedi ceisio sicrhau cysondeb â’r data y gwyddom eich bod chi a chydweithwyr yn ei ddefnyddio ar lefelau daearyddiaeth eraill. Ar gyfer ein trefi mwy o faint a’n dinasoedd, rydym wedi ychwanegu’r gallu i weld y data am is-ardaloedd (LSOAs). Gall defnyddwyr ddewis gweld data am le sy’n gymharydd hefyd.

Mae gennym drefniadau cyffrous ar y gweill ar gyfer yr offeryn, gyda ffocws hirdymor ar ei botensial i gefnogi deall y data sy’n deillio i Gyfrifiad 2021. Yn y tymor byr, byddem yn croesawu’ch mewnbwn a’ch cyngor yn fawr iawn wrth i ni geisio ychwanegu rhagor o ddata ac estyn ei ymarferoldeb.

Os oes gennych unrhyw feddyliau neu syniadau, neu os hoffech sgwrsio am yr offeryn, cysylltwch ag Andrew.Stephens@Data.Cymru

Postio gan
y Golygydd / the Editor
29/05/2019