• This website is available in English

Cyhoeddi set ddata gyffredin asesiadau o lesiant lleol

Data Unit Logo

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod gofyniad ar Fwrdd Gwasanaethau Lleol (PSB) i baratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr llesiant yn ei ardal. Caswom gyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu ‘set ddata cyffredin’ er mwyn gynorthwyo’r gwaith.

Rydym wedi datblygu’r set ddata gan ddefnyddio’r pedair thema: llesiant cymdeithasol; economaidd; diwylliannol; ac amgylcheddol gan geisio adeiladu ar brofiad asesiadau blaenorol a cyhoeddiad diweddar y set o ddangosyddion cenedlaethol.

Mae ymgysylltu â chydweithwyr partneriaeth, a chael eu mewnbwn, wedi bod yn rhan allweddol o ddatblygu’r set ddata ac rydym wedi defnyddio rhwydweithiau lleol a rhanbarthol yn ogystal â grwpiau rhwydwaith cenedlaethol sefydledig i ategu hyn.

Gall y set ddata hon fod yn fan cychwyn i PSBs ledled Cymru ddechrau asesu llesiant yn yr ardal a chynhyrchu’r asesiad. Bydd yn rhan yn unig o’r sylfaen dystiolaeth y bydd PSBs yn dymuno ei defnyddio i ategu eu hasesiadau, sy’n debygol o gynnwys tystiolaeth a gwybodaeth leol hefyd gan gynnwys barn dinasyddion. Nod y set ddata gyffredin hon yw cynyddu cysondeb a lleihau dyblygu gwaith wrth ddatblygu’r asesiadau ledled Cymru. Bwriedir iddi ganiatáu am hoelio mwy o sylw ac adnoddau ar ddadansoddi’r data a chysondeb rhwng partneriaid sy’n cefnogi mwy nag un PSB.

Mae’r set ddata ar gael nawr yma.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, neu os hoffech drafod sut gall yr Uned Ddata gynnig cefnogaeth bellach, cysylltwch â Chris Perkins neu ffoniwch 029 2090 9500.

Postio gan
y Golygydd / the Editor
31/05/2016