• This website is available in English

Newyddion Diweddaraf InfoBase - Ebrill

IBC Logo

Yma fe welwch yr holl newyddion InfoBase gan gynnwys diweddariadau ar y system a’i chynnwys.

2022-23 data gweithlu'r awdurdod lleol ar gael

Mae’r data 2022-23 gweithlu'r awdurdod lleol nawr ar gael. Dylai ymholiadau am y data gael eu hanfon at PIEnquiries.

Cyrchfannau gadawyr ysgol (2023)

Mae data 2023 am cyrchfannau gadawyr ysgol (NEETs (y gwyddir nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg llawn amser na hyfforddiant yn y gwaith ar gyfer pobl ifainc) ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan Gyrfa Cymru.

Statws cyflogaeth – anableddau (2023)

Mae’r amcangyfrifon diweddaraf o statws cyflogaeth ar gyfer anableddau am 2023 nawr ar gael yn dilyn diweddariad diweddar yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol.

Nodwch fod y data am 2020 i 2022 hefyd wedi’u ddiwygio.

Cyfrif hawlwyr (Mawrth 2024)

Mae’r data am Fawrth 2024 ar nifer y bobl o oedran gweithio sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

Statws cyflogaeth – anweithgarwch economaidd ac eithrio myfyrwyr (datganiad Ebrill 2024)

Mae’r amcangyfrifon diweddaraf (Ionawr 2023 – Rhagfyr 2023) o statws cyflogaeth ar gyfer anweithgarwch economaidd ac eithrio myfyrwyr nawr ar gael yn dilyn diweddariad diweddar yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol.

Bydd y diweddariad nesaf ar gael ym mis Gorffennaf 2024.

Data patrymau cymudo (2023)

Mae data am batrymau cymudo 2023 ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

Postio gan
y Golygydd / the Editor
30/04/2024
Categorïau: Diweddariadau data