Ar 25 Mai 2018 daeth cyfreithiau newydd ar ddiogelu data i rym - Y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) - cyfraith newydd ledled Ewrop a Deddf Diogelu Data DU 2018.
Mae’r deddfwriaethau hyn yn nodi sut y bydd angen i sefydliadau drin data personol i wella hawliau’r bobl y cedwir data amdanynt, a rhoi mwy o reolaeth iddynt drosto.
Mae ein Polisi Diogelu Data yn esbonio sut rydym yn sicrhau bod y Data Personol a gasglwn yn cael ei brosesu mewn modd cywir a diogel, yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a deddfwriaeth gysylltiedig arall. Bydd yn berthnasol i wybodaeth ni waeth ym mha ffordd caiff ei chasglu, ei defnyddio, ei chofnodi, ei storio a’i gwaredu, ac ni waeth a yw’n cael ei chadw mewn ffeiliau papur neu’n electronig.
Os ydych o’r farn bod Data Cymru wedi camddefnyddio’ch data, mae gennych hawl i gwyno. Gweler ein Polisi Cwynion am wybodaeth bellach.
Mae gennych hawl hefyd i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Mae ein Polisi Diogelu Data yn esbonio sut rydym yn sicrhau bod y Data Personol a gasglwn yn cael ei brosesu mewn modd cywir a diogel, yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a deddfwriaeth gysylltiedig arall.