• This website is available in English

‘Hysbysu ac Ysbrydoli’ – croeso i raglen weminarau Data Cymru

Rydym ni’n cynnal gweminarau rheolaidd fel rhan o’n rhaglen gymorth meithrin capasiti. Dwy brif thema sydd i’n rhaglen weminarau:

      Mae ein gweminarau Datasy'nHysbysu yn cynnig cyflwyniad lefel-uchel i amrywiol bynciau sy’n ymwneud â data, ystadegau ac ymchwil.

 Mae ein gweminarau Datasy'nYsbrydoli yn rhoi sylw i waith arloesol ac ysbrydoledig rydym ni a/neu sefydliadau eraill yn ei wneud gyda data.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru am un o’n sesiynau sydd ar y gweill, ewch i TicketSource (Saesneg yn unig). Bydd sesiynau’r dyfodol yn cael eu hychwanegu bob mis.

Gallwch nawr gofrestru ar ein rhestr bostio 'Hysbysu ac Ysbrydoli' i fod yn un o'r cyntaf i glywed am weminarau, sesiynau hyfforddi neu ddigwyddiadau eraill yn y dyfodol Cofrestru

Rydym ni, Data Cymru, yn prosesu data yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 ac ni fyddwn yn defnyddio nac yn rhannu’ch manylion at unrhyw ddiben arall. Os hoffech gael eich tynnu oddi ar y rhestr bostio, cysylltwch ag ymholiadau@data.cymru.

Cymerwch ran

“Does dim y fath beth â methiant, dim ond profiadau dysgu” – Anon

Rydym bob amser yn chwilio am gynnwys ar gyfer gweminarau. Os ydych chi wedi gweld, gwneud, neu wrthi’n gwneud rhywbeth diddorol, arloesol ac ysbrydoledig gyda data, byddem wrth ein bodd i glywed amdano – llwyddiannus neu fel arall.

Yn yr un modd, byddem wrth ein bodd yn clywed eich awgrymiadau am weminarau Datasy'nHysbysu y dyfodol – pa bwnc data, ystadegau neu ymchwil hoffech chi ddysgu mwy amdano?

Cyswllt

Suzanne Draper

Suzanne yw ein Pennaeth Mewnwelediad ac Ymgysylltu, gyda chyfrifoldeb cyffredinol am ein cymorth gwella, cymorth partneriaeth a rhaglenni gwaith meithrin gallu. Mae Suzanne hefyd yn rhan o'n huwch dîm rheoli.

029 2090 9516

Suzanne.Draper@data.cymru