• This website is available in English

Adnodd hyfforddi ar-lein Asesiadau o’r Farchnad Dai Lleol

Yn 2011 ystyriodd Grŵp Gwybodaeth Tai Llywodraeth Cymru sut i wella mynediad awdurdodau lleol i wybodaeth am y farchnad dai a sut i gynorthwyo awdurdodau lleol wrth ddatblygu ac adolygu eu Hasesiad o’r Farchnad Dai Leol (LHMA). Cafodd y gwaith hwn ei barhau gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen LHMA a oedd yn cynnwys swyddogion tai a chynllunio o Lywodraeth Leol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) a Llywodraeth Cymru.

Canlyniad gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen LHMA oedd cynhyrchu arweiniad, ’Getting Started on your LHMA a step by step guide', a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2012. Cafodd hwn ei ddatblygu i ategu ond nid i gymryd lle arweiniad cynhwysfawr a manwl Llywodraeth Cymru ar LHMAs a oedd eisoes yn bodoli ers 2006.

Prif nodau’r arweiniad oedd:

  • darparu man cychwyn am gyfrifo meintiol yr angen am dai ac asesu’r farchnad dai leol;
  • cyflwyno mwy o gysondeb mewn dulliau ledled Cymru yn ogystal â chydnabod gwahaniaethau rhwng marchnadoedd tai a mynediad i ffynonellau data;
  • galluogi awdurdodau lleol i gynnal LHMA yn fewnol; a
  • darparu man cychwyn fel sylfaen i ddealltwriaeth fwy soffistigedig o farchnadoedd tai.

Yn sgîl cyflwyno’r arweiniad, nododd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen LHMA yr angen am gyrsiau hyfforddiant rhanbarthol i gydategu’r fethodoleg a ddefnyddir yn yr arweiniad. Byddai’r cyrsiau yn cynorthwyo swyddogion tai awdurdodau lleol i ddechrau llunio eu LHMAs eu hun ac yn eu hannog i’w cynhyrchu’n fewnol.

Cafodd Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru (yr Uned Ddata) ei chomisiynu gan WLGA i ddatblygu’r hyfforddiant rhanbarthol ochr yn ochr ag ymarferwr tai a oedd wedi ei secondio o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i lunio’r arweiniad cam wrth gam i ddechrau. Cafodd y cyrsiau hyfforddiant rhanbarthol eu cynnal yng Ngogledd, Canolbarth a De Cymru rhwng Tachwedd 2012 a Chwefror 2013.

Bu’r hyfforddiant yn llwyddiannus ac roedd nifer o awdurdodau lleol yn gallu mabwysiadu’r fethodoleg a dechrau cynhyrchu eu LHMAs eu hunain yn fewnol. Fodd bynnag, er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol eraill i gadarnhau eu dealltwriaeth o’r fethodoleg a’u galluogi i’w dilyn yn ôl eu hamserlenni eu hun, roedd cynnig i ddatblygu adnodd hyfforddiant LHMA ar-lein. Cofnod yw’r adnodd hyfforddiant LHMA ar-lein o’r camau a drafodir yn y cwrs hyfforddiant i amlinellu’r fethodoleg. Cafodd y cynnig ei gefnogi gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen LHMA, Rhwydwaith Strategaeth Dai Cymru a Grŵp Gwybodaeth Tai Llywodraeth Cymru.