• This website is available in English

Posts From Mehefin, 2016

  • IBC Logo

    Ydych chi’n gwybod faint o bobl sy’n byw yn eich awdurdod chi?

    Cyhoeddedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol amcangyfrifon poblogaeth canol y flwyddyn 2015 ar 23 Mehefin 2016.

    Mae’r amcangyfrifon ar gael ar lefel blwyddyn oedran unigol ac awdurdod lleol. Rydym ni wedi eu cynnwys yn InfoBaseCymru fel bandiau oedran eang i’w gwneud yn haws eu defnyddio.

    Cysylltwch â ni os oes arnoch chi angen data am fandiau oedran gwahanol.

    Am fwy wybodaeth am ddata poblogaeth cysylltwch â Jenny Murphy.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Diweddariadau data
  • Free Swimming1 Logo

    Gweithiwn ar y cyd â Chwaraeon Cymru i gasglu, dadansoddi ac adrodd am ddata Nofio am Ddim oddi wrth awdurdodau lleol yng Nghymru.

    Nod y gwaith hwn yw gwerthuso effaith y Fenter Nofio am Ddim yng Nghymru drwy ddefnyddio’r data yn effeithiol.

    Dyma rai o’r prif bwyntiau o ddata 2015-16:

    • Bu lleihad o 25% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl ifanc, o’u cymharu â 2014-15.
    • Mae’r grŵp oedran 60 ac yn hŷn wedi gweld lleihad o 4% mewn nofio cyhoeddus am ddim hefyd, o’u cymharu â 2014-15.

    Dysgwch fwy a gweld sut mae cyfranogiad yn eich awdurdod chi drwy fynd i’n hoffer Nofio am Ddim.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Free Swimming1 Logo

    Sut mae’r cyfranogiad mewn Nofio am Ddim yn eich awdurdod chi?

    At ei gilydd, mae’r data Nofio Am Ddim diweddaraf yn dangos lleihad o 3% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim gan bobl iau a chan bobl hŷn fel ei gilydd o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Cawsom ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i adolygu mecanwaith dyrannu presennol Grant Amddifadedd Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar a gwneud argymhellion a allai’r dull presennol gael ei wella’n ymarferol.

    Wrth ymgymryd â’r adolygiad ystyriom ni:

    • addasrwydd y dull presennol o ddyrannu’r grant;
    • archwilio’r dull a fabwysiadwyd mewn gwledydd eraill am ariannu’r math hwn o gymorth ac ystyried eu haddasrwydd yng nghyd-destun Cymru; ac
    • ystyried rhai dulliau amgen posibl yn fanwl, gan gynnwys darparu darlun o sut allai’r dyraniad edrych; a
    • gofyn am farn awdurdodau lleol a sefydliadau dysgu.

    Nid yw ein hadolygiad wedi nodi unrhyw broblemau sylfaenol gyda’r dull dyrannu presennol y Grant. Serch hynny, rydym wedi nodi nifer fach o welliannau posibl i’r dull presennol.

    Cliciwch y ddelwedd isod i weld ein hadroddiad gwerthuso.

    EYPDG image

    Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, neu os hoffech drafod yr adroddiad, cysylltwch ag Andrew Stephens neu Ana Harries neu ffoniwch 029 2090 9500.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Cyhoeddiad