• This website is available in English

Newyddion

  • PAMs guidanceYn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi canllawiau Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (PAMs) 2017-18.

    Mae’r set ddata hon wedi cael ei datblygu gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen dan arweiniad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), mewn ymgynghoriaeth ag awdurdodau lleol, ac mae’n ceisio cynnig trosolwg eglur a syml o berfformiad llywodraeth leol.

    Mae’r canllawiau yn cynnwys diffiniadau manwl ar gyfer pob mesur, gan gynnwys canllawiau cynhwysfawr am y mesurau hynny y byddwn yn casglu’n uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Rydym hefyd wedi cynnwys gwybodaeth ar sut y gall pob un o’r PAMs yn helpu awdurdodau lleol i ddangos sut maent yn cyfrannu at y saith nod llesiant.

    Dylai ymholiadau am y dangosyddion PAMs neu’r canllawiau gael eu hanfon at pienquiries@unedddatacymru.gov.uk


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Rydym ni wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar am ddata Cynllunio’r Gweithlu Gweithwyr Cymdeithasol 2015-16. Nod yr adroddiad yw cefnogi awdurdodau lleol a Chyngor Gofal Cymru (nawr Gofal Cymdeithasol Cymru) wrth gynllunio am anghenion y gweithlu yn y dyfodol a llywio comisiynu hyfforddiant gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru.

    Dengys yr adroddiad nifer y gweithwyr cymdeithasol sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol a hynny mewn Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant a meysydd eraill. Mae’n edrych hefyd ar dueddiadau’r gweithlu dros amser a throsiant staff a’r gweithlu rhagamcanol dros y tair blynedd nesaf.

    I weld adroddiad 2015-16 cliciwch y ddelwedd isod.

    SWWP


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Cyhoeddiad
  • Free Swimming1 Logo

    Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos lleihad o 3% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Daeth mwy na 100 o gynrychiolwyr i’n pumed Digwyddiad Hysbysrwydd Cenedlaethol – Cynllunio gyda’n gilydd i wella llesiant lleol: Beth sy’n gweithio? ddydd Iau 2 Mawrth 2017 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

    Clywodd y cynadleddwyr oddi wrth amrediad o siaradwyr gan gynnwys Christopher Stevens, Pennaeth Cangen Cynllunio a Phartneriaeth a Claire Germain Pennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru. Hefyd clywsom oddi wrth Liz Zeidler, Prif Weithredwr Happy City. Rhannodd Liz brofiadau Happy City gan gynnwys eu dulliau a’u hymagweddau at lesiant cynaliadwy i bawb.

    Roedd nifer o sesiynau grwpiau trafod gyda siaradwyr o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, Prifygsol Coventry, Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, Prifysgol Caerdydd, Swyddfa’r Comisiynydd Plant, Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn, Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Sefydliad Cymdeithas, Iechyd a Llesiant Caerdydd (CISHeW).

    Daeth Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, â’r diwrnod i ben gan rannu ei meddyliau ar yr asesiadau drafft ar lesiant lleol a’i disgwyliadau am y flwyddyn o’n blaen. Dilynwyd hyn gan sesiwn holi ac ateb gyda’r Comisiynydd.

    Mae’r adborth o’r digwyddiad wedi bod yn gadarnhaol iawn hyd yma. Mae’r cyflwyniadau ar gael ar ein gwefan.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: NIE
  • Free Swimming1 Logo

    Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos lleihad o 7% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    Chris Beck

    Categorïau: Diweddariadau data
  • Free Swimming1 LogoYn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos lleihad o 19% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

  • Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • IBC Logo

    Rydym wedi diweddaru’n cynnig ar gyfer data anableddau yn InfoBaseCymru. Erbyn hyn mae gennym ddata am y nifer y bobl sydd ag anableddau corfforol neu synhwyraidd ar gofrestrau awdurdodau lleol. Mae hyn ar gael ar lefel yr awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol.

    Os oes gennych chi unrhyw sylwadau ar y data hwn, cysylltwch â ni yn ymholiadau@unedddatacymru.gov.uk neu 029 2090 9500.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Diweddariadau data
  • IBC Logo

    Rydym wedi diweddaru’n cynnig ar gyfer data Iechyd y geg yn InfoBaseCymru.

    Erbyn hyn mae gennym ddata am y nifer cyfartalog o ddannedd wedi pydru, colli neu eu llenwi ymhlith plant 5 a 12 mlwydd oed. Mae hyn ar gael ar lefel yr awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol.

    Os oes gennych chi unrhyw sylwadau ar y data hwn, cysylltwch â ni ynymholiadau@unedddatacymru.gov.uk neu 029 2090 9500.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Diweddariadau data
  • Free Swimming1 Logo

    Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos lleihad o 8% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor