• This website is available in English

Data Cymru – cefnogi’n pobl i “wir siarad Cymraeg”

Blog

Ers 2017, mae Data Cymru wedi ymrwymo i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, fel a bennir gan Lywodraeth Cymru o dan Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r safonau hyn yn gosod disgwyliadau clir i ni ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg i’n cwsmeriaid, a hyrwyddo defnydd y Gymraeg am ein holl wasanaethau. Mae’n cynnwys safonau y mae’n rhaid i ni gydymffurfio â nhw wrth gyflenwi gwasanaethau, llunio polisi, gweithrediadau a chadw cofnodion.

Yn ddiweddar, roedd hwb mewnol i ddefnyddio’r Gymraeg yn amlach ac yn fwy organig yn y gwaith ac i allu darparu mwy o wasanaethau, lle bo’n bosib, trwy gyfrwng y Gymraeg. I annog dysgu a siarad Cymraeg yn y swyddfa ymhlith staff mewn sefyllfaoedd anffurfiol a ffurfiol, rydym wedi ymrwymo i ‘Coffi Cymraeg’ unwaith y mis. Mae’r cyfarodydd hyn yn gyfle i ddysgwyr ymarfer, i siaradwyr Cymraeg rhugl gynnal eu Cymraeg ac mae hyd oed croeso i’r sawl heb fawr neu ddim Cymraeg* i ddod a gwrando.

Yn Data Cymru rydym yn ymrwymo i ddatblygu a dysgu parhaus ar gyfer ein staff ac felly, yng Ngorffennaf, dyma’n Prif Swyddog Gweithedu, Richard Palmer, a finnau’n cychwyn am Nant Gwrtheyrn yn y gogledd am gwrs gloywi preswyl am wythnos.

Blog

Nant Gwrtheyrn yw cartref y Ganolfan Cymraeg a Threftadaeth Genedlaethol, sy’n cynnig cyrsiau ar-lein a phreswyl am ddysgu Cymraeg ar bob lefel. Wedi’i lleoli ar arfordir gogleddol hudolus Penrhyn Llŷn, mae ei lleoliadau preifat ac anghysbell yn cynnig profiad trochi, unigryw.

Dechreuodd ein cwrs pum niwrnod gyda sesiwn cyflwyniadol, cyfle i ddod i adnabod ein cyd-fyfyrwyr a gosod rhai nodau. Roedd y rhain yn amrywio’n eang ond daeth yr un themâu i’r amlwg i bawb: eisiau hyder, help gyda threiglo a rhai gwelliannau ymarferol ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith. Dyma fy nodau innau hefyd, yn ogystal ag eisiau mwynhau defnyddio Cymraeg.

Peth difyr oedd nodi ein bod i gyd yn canmol sgiliau Cymraeg lleill ond yn ddigon parod i feirniadu’n sgiliau ein hun. Pam ydy’r Cymry mor anfodlon canu clodydd eu hunain? Achos, er ei bod i gyd yn gallu siarad yn rhugl ac yn hir, ar amrediad o bynciau gwahanol, roedden ni i gyd yn teimlo nad oedd gennyn ni “ddigon o Gymraeg” neu “ddim yn ddigon da”. Os ydych chi’n meddwl bod Prydeinwyr yn gor-ymddiheuro, arhoswch nes i chi gwrdd â deg o siaradwyr Cymraeg awyddus ond nerfus yn ceisio gwella eu sgiliau iaith.

Arweiniodd ein tiwtor am yr wythnos ni trwy rywfaint o gynnwys sefydledig y cwrs yn ogystal â bod yn ddigon hyblyg i’n helpu gydag ymholiadau neu nodau penodol. Cyfuniad delfrydol, o wersi gramadeg, gwaith cyflwyno a siarad fel pwll y mor. .

Roedden ni’n ffodus, er dwi’n tybio bod hyn yn ffenomen cyffredin iawn yn Nant Gwrtheyrn, i ddod at ein gilydd yn agos fel grŵp yn gyflym ac i ni i gyd deimlo’n gysurus wrth rannu, herio a holi ein gilydd.

Blog

Erbyn diwedd y trydydd diwrnod, ces i fy mod i’n meddwl ac yn ysgrifennu yn Gymraeg heb orfod procio fy hunan i wneud hynny’n gyntaf. Ac erbyn dydd Gwener, doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i’n cyfieithu o Saesneg i Gymraeg cyn siarad, roeddwn i, yn bennaf, wir yn siarad Cymraeg! Ddim yn ddrwg i rywun sydd heb ddefnyddio’r Gymraeg i raddau helaeth ers fy TGAU.

Allai Richard a finnau ddim canu clodydd y Nant yn uwch - ac roedden ni’n ddigon ffodus i fwynhau cyd-ganu’n egnïol gyda’r grŵp ac un o’n cyd-fynychwyr, y canwr a chyfansoddwr caneuon Eve Goodman!

Mae digonedd o staff eraill Data Cymru a fydd nawr yn ceisio mynychu cyrsiau yn y Nant, o ddechreuwyr i gyrsiau gloywi, ar-lein a phreswyl. Mae Richard hyd yn oed wedi cofrestru i wneud y cwrs gloywi ysgrifenedig.

O ganlyniad i’m profiad a chefnogaeth gan Data Cymru, erbyn hyn dwi wedi cyflwyno sawl cwrs hyfforddiant yn y Gymraeg. Hefyd dwi wedi anfon e-byst a chynnal cyfarfodydd yn y Gymraeg. Ein huchelgais yw cynnig sesiynau hyfforddiant Cymraeg (yn hytrach na’n cynnig presennol sef darparu cyfieithu ar y pryd o Saesneg i Gymraeg os bydd o leiaf 10% o’r sawl sy’n mynychu yn dymuno defnyddio Cymraeg).

Blog

Roedd yn fraint cael mynychu Nant Gwrtheyrn a dwi wrth fy modd yn gweithio yn Data Cymru, lle rydym yn annog defnyddio’r Gymraeg nid yn unig oherwydd ein hymrwymiad i Safonau’r Gymraeg ond achos, i rai ohonon ni, mae gweithio yn y Gymraeg jest yn gwneud synwyr.

*Yn bersonol, dwi’n gwrthod y syniad bod neb sy’n byw yng Nghymru â “dim Cymraeg” achos, ie, mae “Rydw i’n hoffi coffi” yn cyfri ac mae’r mwyafrif o bobl yn gwybod o leiaf un gair, shwmai neu Cymru, er enghraifft.

 

Ynglŷn â’r awdur

Cymraeg icon

Róisín Roberts

Róisín yw ein swyddog Mewnwelediad ac Ymgysylltu Data. Mae hi'n cefnogi ein gwaith ymgysylltu a gwella. Mae hi hefyd yn arwain ein rhaglen waith meithrin gallu.

Postio gan
y Golygydd / the Editor
22/12/2023