• This website is available in English

F’amser i yn Data Cymru

Blog

Mae Ieuan yn ymadael â ni am borfeydd newydd ar ôl bron pum mlynedd yn union o weithio gyda ni. Gofynnom iddi rannu ei feddyliau ar ei amser yma a pam mae dilyn gyrfa ym maes data yn gam call i unrhyw fyfyriwr graddedig.

Cyflwyniad

Mae graddio o brifysgol yn garreg filltir hynod gyffrous, ond yn aml mae’n dod law yn llaw â’r dasg frawychus o wybebu’r farchnad swyddi. Wnes i raddio gyda gradd yn y Gymraeg a Mathemateg ac edryches i ar lawer o opsiynau. Roeddwn i bob amser yn hoff o rifau pan oeddwn i’n ifancach a dysges i lot o sgiliau Excel yn ystod cyfnod byr gydag un o’r 4 Mawr, ond roedd yn teimlo’n bwysig i mi weithio i sefydliad lle roedd gwerth mawr yn cael ei roi ar y Gymraeg. Roeddwn i’n ddigon ffodus i ddod o hyd i swydd yn Data Cymru.

Pam Data Cymru?

Ar ôl ymchwilio i Data Cymru, roeddwn i’n cytuno ar unwaith â’u cenhadaeth i ddarparu gwasanaethau a mewnwelediadau data i gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru. Eu nod yw gwella gwasanaethau cyhoeddus trwy ddefnyddio data’n effeithiol, ac roedd hyn yn gwneud synwyr i mi. Teimlwn y gallwn i helpu i wneud gwahaniaeth i wasanaethau cyhoeddus trwy ddefnydd io data a rhifau, ar yr un pryd â thyfu mewn amgylchedd proffesiynol sy’n cael ei yrru gan ddata.

Argraffiadau cyntaf a’r pandemig

Blog

Roedd ymuno â Data Cymru yn syth allan o brifysgol yn wefreiddiol ac yn frawychus. Roeddwn i’n gyffrous i ddysgu sgiliau newydd mewn swydd roeddwn i’n credu ei bod ar lefel mynediad, a fyddai’n gadael i mi dyfu’n gyson a dysgu am fyd data. Ond chwe mis ar ôl i mi ymuno, dyma COVID yn taro ac ar unwaith ces i fy mwrw i mewn i’r pen dwfn.

Oherwydd COVID roedd archwaeth aruthrol gan y cyhoedd am ddata cywir. Byddai pobl yn gwylio’r newyddion bob nos, yn gwirio’r niferoedd achosion diweddaraf yn eu hadal nhw, gan obeithio y byddai’r rhifau’n gostwng ac y gallen ni ffarwelio â’r pandemig. Gwnaeth hyn rôl Data Cymru wrth gasglu data yn hanfodol bwysig.

Ces i fy mwrw i mewn i fyd casgliadau data dyddiol am nifer y plant i weithwyr allweddol a oedd yn dal i fynychu ysgolion, nifer y gofalwyr oedd yn derbyn brechiad, a nifer y plant oedd yn derbyn prydau ysgol am ddim ar ôl i ysgolion ail-agor. Roedd y casgliadau yma’n gadael i mi fod yn rhan o bob cam y broses casglu data, o gasglu i gyhoeddi. Roeddwn i’n falch i rai o’r ffigurau roeddwn i wedi’u casglu gael eu defnyddio yn un o sesiynau briffio dyddiol Prif Weinidog Cymru.

Gweithio ar brosiectau go iawn

Blog

Trwy weithio ar gasgliadau data yn ystod y pandemig ces i ddysgu llawer o sgiliau hanfodol. Yna ces i fy nghyflwyno i sgiliau mwy technegol ac amrywiol offerynnau a systemau roedd y tîm yn eu defnyddio, ac ymddiriedwyd ynof fi i greu dangosfyrddau a rheoli cyflwyniad rhaglen hyfforddiant.

Nid oes yr un swydd heb ei heriau, ac nid oedd fy rôl i yn Data Cymru yn wahanol yn hyn o beth. Un o’r rhwystrau mwyaf oedd meistroli’r feddalwedd a’r offerynnau arbenigol roedd y sefydliad yn eu defnyddio.

Ond mae’r diwylliant yn Data Cymru yn un o ddysgu cyson. Mae’r sefydliad yn cynnig digonedd o gyfleoedd am ddatblygiad proffesiynol, o weithdai i gyrsiau ar-lein. Pryd bynnag byddwn i’n dod ar draws her, roedd cymorth ar gael bob tro, boed gan gydweithwyr neu adnoddau allanol.

Roedd natur gydweithredol gwaith yn Data Cymru yn golygu nad oeddwn i erioed yn ynysig wrth fy nhasgau. Roedd cyfarfodydd tîm rheolaidd, sesiynau taflu syniadau, a dolenni adborth yn sicrhau bod cyfraniad pawb yn cael ei werthfawrogi, a bod yr allbwn terfynol yn gyd-ymdrech. Roedd y ffordd hon o weithio nid yn unig yn gwella ansawdd y gwaith ond hefyd yn meithrin ymdeimlad cryf o gymuned o fewn y tîm.

DataBasicCymru

Blog

Roedd ymddiriedaeth fy nghydweithwyr ynof i hwyluso cyflwyniad rhaglen hyfforddiant data yn anrhydedd enfawr yn fy natblygiad proffesiynol. Mae’r cwrs hyfforddiant, DataBasicCymru, yn helpu dechreuwyr ym maes data i fagu hyder a gwella eu rhugledd o ran data. Yn ystod f’amser yn gweithio ar y prosiect yma, cyflwynon ni’r hyfforddiant i 18 awdurdod lleol a’r Senedd, gan hwyluso hyfforddiant i fwy na 400 o gyfranogwyr. Gwnaeth derbyn adborth rhagorol gan gyfranogwyr roi cymaint o foddhad i mi, gan fy mod i’n credu bod data i bawb ac y bydd pobl yn dibynnu’n fwyfwy ar ddata manwl-gywir yn y dyfodol.

Edrych tua’r dyfodol

Blog

Wrth i mi baratoi i adael Data Cymru ac edrych tua’r dyfodol, rwy’n hynod o gyffrous am y posibiliadau o’m blaen i. Mae gen i gyfle anhygoel gyda fy nghyflogwyr newydd i ddefnyddio’r sgiliau rwy wedi eu dysgu a chynnig mwy o fewnwelediadau data i wasanaeth cyhoeddus. Rwy’n gwybod o brofiad bod data yn gwneud gwahaniaeth, ac rwy’n annog pawb i ymgorffori data yn eu gwaith, boed hynny fel llwybr gyrfa neu fel rhywbeth all ychwanegu gwerth yn eu gwaith. Mae’r posibiliadau gyda data yn ddi-rif, ac mae dehongli data fel y gall pobl eraill wneud penderfyniadau gwybodus yn gallu newid y byd!

Postio gan
y Golygydd / the Editor
01/09/2024