• This website is available in English

Arfer Da Cymru

Am Arfer Da Cymru

Mae Arfer Da Cymru yn wefan sy’n cynnig arferion da a gwybodaeth i wasanaethau cyhoeddus Cymru.

Gwella gwasanaethau yw nod pob corff sector cyhoeddus ac o ganlyniad mae coladu, rhannu a dysgu am arfer da wedi dod yn flaenoriaeth i lawer o gyrff. Er bod cyrff yn rhannu arfer da yn fewnol, mae’n anodd yn aml cael gafael ar enghreifftiau o arfer da o gyrff eraill - cyfle sy’n cael ei golli pan fo cymaint y gallwn ni i gyd ddysgu o’n gilydd.

Nod Porth Arfer Da Cymru yw bod y pwynt mynediad unigol at amrediad eang o arfer da sydd ar gael ar hyd a lled gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Ewch