• This website is available in English

Creu sector cyhoeddus sy’n hyddysg o ran data

Blog

Yn ôl yn 2016, awgrymodd astudiaeth a gyhoeddwyd gan IBM ("10 key marketing trends for 2017" Saesneg yn unig) fod 90% o ddata’r byd wedi cael ei greu yn y deuddeg mis blaenorol, gyda llawer o ddadansoddwyr data yn rhagweld y byddai’r bydysawd digidol 40 gwaith yn fwy erbyn 2020. Er bod y ffigur yma, ar yr wyneb, yn edrych yn syfrdanol, efallai nad yw’n gymaint o syndod pan ystyriwn ni faint o ddata rydym ni’n ei gasglu bob dydd, yn arbennig mewn cyd-destun proffesiynol. Mae’r cyfleoedd mae hyn yn eu cyflwyno i ddysgu mwy am ein cymunedau, eu hanghenion a’u profiadau yn ysbrydoliaeth. Ac eto, mae’n gallu bod yn llethol hefyd – sut mae datgloi’r ddirnadaeth? Ble ydw i’n dechrau?

Yn ffodus, dyma ychydig yn unig o’r cwestiynau y bydd y rhaglen hyfforddiant DataBasic yn eich helpu i’w hateb, ac rydym ni, mewn cydweithrediad â Data Orchard CIC (Saesneg yn unig), yn dod â hi i Gymru!

Blog

Rhaglen hyfforddiant DataBasic

Nod syml rhaglen DataBasic yw helpu unrhyw un mewn sefydliad, p’un a oes ganddyn nhw gyfrifoldeb am ddata neu beidio ac ni waeth ar ba radd mae eu swydd, i ddod yn fwy hyderus gyda data. Mae’r rhaglen, a gafodd ei datblygu’n wreiddiol gan ymchwilwyr yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) (cewch chi weld yr un wreiddiol yma (Saesneg yn unig)), yn cynnwys cyfres o ymarferion, gweithdai (y mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n dibynnu ar bapur, ysgrifbin a thrafod) a nifer fach o offerynnau ar-lein a fydd i gyd yn eich helpu i adeiladu’r sgiliau sylfaenol mae eu hangen er mwyn defnyddio data’n fwy effeithiol.

Felly, os ydych chi am fod yn fwy hyddysg o ran data, i allu gofyn y cwestiynau cywir a gwneud y defnydd gorau ar y data sydd gennych chi, yna does dim angen chwilio ymhellach. P’un a ydych chi’n arbenigwr data neu’n rhywun ag ofn taenlenni, credwn fod gan y rhaglen yma lawer iawn i’w gynnig.

Creu diwylliant hyddysg o ran data

Blog

Nid unigolion yn unig yw targed y rhaglen. Yn wir, mae DataBasic yn gweithio orau pan fydd llawer o bobl o fewn sefydliad yn cofrestru i ddilyn y rhaglen. Er bod angen sgiliau dadansoddol neu dechnegol arbenigol ar rai pobl, mae angen sgiliau sylfaenol mewn defnyddio data’n fwy effeithiol ar bob gweithiwr, a’r hyder i gael sgyrsiau ynglŷn â data.

Ar ben hynny, petai llawer o bobl a/neu sefydliadau ar draws llywodraeth leol a’r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru yn dilyn y rhaglen hon, gallai gael effaith wirioneddol ar y diwylliant mewn perthynas â chasglu, dehongli a defnyddio data.

Helpwch ni i gymryd y cam cyntaf

Blog

Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf rydym ni wedi bod yn addasu cynnwys y rhaglen i weddu’n well i sector cyhoeddus Cymru. Yn rhan o hyn, rydym ni wedi cynnal nifer o sesiynau peilot (a hoffen ni ddiolch i staff Data Cymru a Chyngor Sir Powys am eu cydweithrediad a’u hadborth) i wirio bod y technegau mor ddefnyddiol ag y credwn ni eu bod (ac maen nhw, diolch byth).

Bellach rydym ni’n bwriadu ei chyflwyno’n ehangach.

Y cam cyntaf yw gwahodd unigolion o bob rhan o’r sector cyhoeddus i symud drwy’r rhaglen, yn fwy na thebyg dros gyfnod o 2 ddiwrnod. Ein gobaith yw y bydd hyn nid yn unig yn cynhyrchu adborth ychwanegol ond hefyd yn awgrymu sut allwn ni fireinio’r cynnwys, ond, yn bwysicaf oll efallai, yn creu tipyn o ddiddordeb ac yn annog sefydliadau i gymryd rhan yn y rhaglen.

Mae gennym ni ddiddordeb hefyd mewn dod o hyd i dimau neu grwpiau o fewn sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru a hoffai roi cynnig ar ddeunyddiau DataBasic Cymru yn eu sefydliadau eu hunain, drwy gyfrwng cyfres o sesiynau cinio a dysgu dros ychydig o fisoedd.

Erbyn yr hydref, ein gobaith yw y bydd gennym ni set ddwyieithog lawn o ddulliau gweithdy, wedi eu haddasu a’u profi, gyda setiau data ac enghreifftiau cysylltiedig, y cawn ni drefnu eu bod ar gael i wasanaethau cyhoeddus Cymru.

Os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â ni.

Ynglŷn â’r awdur

Suzanne Draper

Suzanne yw’n harweinydd strategol am gasglu a llywodraethu data, gyda chyfrifoldeb cyffredinol dros lywodraethu data a’n holl waith casglu data, rheoli perfformiad a meincnodi.

Cyswllt

029 2090 9516

Suzanne.Draper@data.cymru

Postio gan
y Golygydd / the Editor
28/01/2020