• This website is available in English

Ydym ni eisiau bod yn ‘well’ neu’n ‘hapusach’?

Pan ddechreuais i weithio gyda data yng Nghymru, yn ôl yn 2006, roedd yr amgylchedd yn wahanol iawn!

Blog

Gwaith gweddol elfennol oedd f’asesiad anghenion cyntaf, i gefnogi cynllun Plant a Phobl Ifanc Merthyr Tudful 2008-2011. Roedd e’n cynnwys llawer o ryddiaith redegog (a fethodd ag ychwanegu dim!), a thaith garlam drwy’r holl ddata mesur perfformiad allwn ni ei gynnwys. Dangosodd sut roedd Merthyr yn cymharu â’r 21 awdurdod lleol arall yng Nghymru am y flwyddyn honno, a thipyn bach o ddata dros amser i ddangos cyfeiriad y newid. Nid oedd dim gwerthusiad eilaidd, dim dadansoddiad o’r sefyllfa, dim cyd-destun, a bron dim data daearyddiaeth lefel isel. Yn ffodus, rwyf wedi gwella tipyn wrth drin a thrafod data ers hynny!

Fel y mae pawb arall, gan gynnwys y sawl sy’n darparu arweinyddiaeth ac arweiniad yn y maes hwn. Bellach mae pawb sy’n gyfrifol am gwblhau asesiadau llesiant, neu asesiadau poblogaeth, neu unrhyw fath o asesu neu ddadansoddi, yn hyddysg wrth gyrchu, dadansoddi a rhoi cyd-destun i ddata er mwyn deall y sefyllfa neu’r boblogaeth dan sylw yn well.

Mae’r newid hwn o ran techneg a ffocws yr un mor berthnasol i sut rydym yn mesur effaith. O’r blaen, byddem ni’n defnyddio’r un data mwy neu lai ag oeddem ni wedi ei ddefnyddio i gwblhau asesiad o anghenion (sy’n swnio’n ffordd hynafol o fynd ati erbyn hyn!), ond rydym ni bellach yn llawer mwy soffistigedig wrth fesur effaith. Mae defnyddio data ansoddol yn digwydd fel rhan o’r drefn erbyn hyn ac yn ategu’r data meintiol a fu ar gael erioed.

Bu newid graddol, ond sylfaenol, hefyd mewn beth rydym yn ei fesur. Mae cyflwyniad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Llesiant yn gofyn i ni ystyried sut rydym yn mesur effaith. Beth ydym ni’n ceisio eu gyflawni, beth ydy pobl ei eisiau oddi wrth wasanaethau a darparwyr gwasanaeth a sut orau gallwn ni ddangos effaith.

Y newid pennaf efallai fu datblygiad syniadau ynghylch ein nodau terfynol. Pam ydym ni yma? Beth ydym ni’n ceisio ei gyflawni gyda’n holl gynllunio ac ymdrech a gwasanaethau? Ydym ni am wneud pethau’n ‘well’ neu ydym ni am i bobl deimlo’n ‘hapusach’? Cwestiynau athronyddol gweddol fawr yw’r rhain, ond mae’n amlwg eu bod yn eithaf canolog i sicrhau ein bod yn gwneud y peth cywir dros bobl. Mae’n dyndra diddorol rhwng sefydliadau sy’n gyfrifol am gynllunio’n strategol a darparu’r gwasanaethau (dan ofyniad i’w darparu o dan ddeddfwriaeth weithiau), a’r cyhoedd sy’n cael eu cefnogi gan y gwasanaethau ac sy’n eu defnyddio. P’un o’r ddau grŵp sy’n cael penderfynu pa wasanaethau ddylai gael eu darparu a beth ddylai canlyniad y gwasanaethau hynny fod? A pha olwg ddylai fod ar lwyddiant?

Mae’r sefyllfa hon yn codi cwestiwn athronyddol diddorol – mae’n gwbl bosibl rhedeg gwasanaeth da nad yw’n cael unrhyw effaith ar lesiant pobl. Gan ddefnyddio pob math o fesurau cyflawni gwasanaeth safonol (y niferoedd sy’n mynychu, ymwybyddiaeth uwch, boddhad y sawl sy’n mynychu, ac ati), mae ymyriad yn gallu bod yn llwyddiant. Ond y peth mwy anodd i’w fesur yw pa wahaniaeth mae ymyriad wedi’i wneud i lesiant pobl, ydy pobl yn well eu byd o ganlyniad i beth rydych chi wedi’i wneud? Ac ydy’r emosiwn hwn yn wahaniaeth pendant a hirdymor, neu’n emosiwn diflanedig yn unig? Heriau mawr, yn ddi-os, ond os ydym am ddeall o ddifrif beth sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, ai dyma’r mathau o gwestiynau mae angen i ni eu hateb?

Felly, mae’r cwestiynau hyn bellach yn llywio sut rydym penderfynu pa ddata i’w gasglu a’i ledaenu. Mae ein hystod draddodiadol o ddangosyddion sy’n ymdrin â pherfformiad ac iechyd, addysg, cludiant, yr economi, ac yn y blaen yn aros yn gwbl berthnasol a phwysig i’n partneriaid. Ond rydym wedi bod yn ehangu’n hystod ni i ddiwallu eu hangen nhw sy’n newid. Nawr, felly, rydym ni’n cadw llawer mwy o ddata arolygon yn yn bwriadu datblygu’n gallu i gadw ffynonellau data ansoddol hefyd.

Blog

Ym mis Ebrill 2018, lansiom ni’r fersiwn gyntaf o Llefydd Llewyrchus Cymru. Cafodd ei ddatblygu ar y cyd â Happy City, a dyma’n fenter gyntaf i mewn i ddata llesiant, gan edrych ar fynychder yr amodau ar gyfer llesiant, sy’n canolbwyntio ar iechyd, cymuned a hapusrwydd yn hytrach nag incwm a gwasanaethau.

Blog

Mae’r offeryn wedi’i seilio ar sawl blwyddyn o waith datblygu gan Happy City, a ddarparodd yr arbenigedd a’r fethodoleg. Gwnaethom ni, ynghyd â’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngwent, ddarparu safbwynt Cymreig penodol, drwy gyrchu a chynnwys data o ffynonellau Cymreig a roddodd iddo naws gwahanol i’r Thriving Places Index ar gyfer Lloegr.

Mae’n cadw cwmni â llawer o adnoddau eraill sy’n datblygu ac yn dod yn bartneriaid mwy defnyddiol, fel Dangosfwrdd Llesiant Cenedlaethol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, dangosyddion Llesiant Cymru a Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, sy’n edrych ar absenoldeb llesiant yn hytrach na mynychder llesiant.

Blog

Ac yn ogystal â’r ffocws cynyddol ar lesiant, mae proffil uwch i fater unigedd ac ynysigrwydd hefyd erbyn hyn. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dod â sawl ffynhonnell data gweinyddol ac arolygon ynghyd i edrych ar unigedd, ac yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi cau ymgynghoriad ar drechu unigedd ac ynysigrwydd, a fydd yn arwain at gyhoeddi’r strategaeth genedlaethol.

Nid yw hyn yn dechrau edrych ar ba ddata llesiant allai fod ar gael i chi’n lleol o wasanaethau, grwpiau cymunedol, ysgolion a ffynonellau eraill lle mae arolygon ac ymarferion casglu data eraill sydd o bosib wedi eu comisiynu. Mae’r holl ffynonellau data ychwanegol hyn yn rhoi opsiynau i bartneriaid yn nhermau’r data sydd ar gael iddyn nhw. Ac er bod cael gormod o ddata i ddewis ohono’n well na’r senario dirgroes, mae yn golygu bod rhaid i chi wneud dewisiadau!

Felly canlyniad hyn i gyd, yn y pen draw, yw nad oes yna un ateb cywir yn fwy na thebyg, dim llwybr sengl allwch chi ei gymryd. Yn yr un modd â’r holl bethau hyn, mae’n debyg mai cyfuniad o ddata a ffynonellau data sy’n gweithio orau i roi’r darlun llawnaf posibl i chi, ac (fel ag erioed) bydd eich ateb delfrydol chi yn edrych tipyn bach yn wahanol i un pawb arall!

Yr allwedd, efallai, yw rhoi cynnig ar wahanol bethau, siarad â chydweithwyr a phartneriaid a chael yr amser yn fewnol i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw’ch nodau a pha gwestiynau mae angen i chi eu gofyn i wybod a ydych chi ar eich ffordd i’w cyrraedd! Sy’n swnio fel man cychwyn model Theori Newid, ond gadawn ni hynny am flog arall!

Ers ysgrifennu’r blog yma, rydym ni wedi cyhoeddi diweddariad 2019 i Lefydd Llewyrchus Cymru.

Ynglŷn â’r awdur

Duncan Mackenzie

Duncan yw ein harweinydd strategol ar gyfer cymorth partneriaeth. Mae’n gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a chyrff cyhoeddus i gefnogi eu gwaith data a gwybodaeth, ac yn rheoli nifer o’n pyrth data ar-lein ac offer lledaenu.

Yn ogystal, mae’n ystadegydd pêl-fasged cymwysedig rhyngwladol, sy’n golygu ei fod yn treulio cryn dipyn o’i amser tu allan i’r gwaith yn edrych ar ddata!

Cyswllt

029 2090 9527

Duncan.Mackenzie@data.cymru

07/05/2019