• This website is available in English

Gwersi a ddysgwyd neu ddysgu’n gyson?

Mae’r amser wedi cyrraedd i symud ymlaen. Rwy wedi bod gyda Data Cymru ers 16 o flynyddoedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai pethau wedi aros yr un peth a llawer o bethau wedi newid. Dyma fyfyrio ar bopeth sydd wedi digwydd a’r pleser rwyf wedi ei gael o weithio i’r sefydliad unigryw yma.

Sgwâr 1

Ymunais i ag Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru yn 2003 pan oedd Llywodraeth Cymru wedi ein comisiynu i reoli arolygon Byw yng Nghymru. Roedd un elfen o’r arolygon aelwydydd cenedlaethol hyn yn ymwneud â chyflwr tai. Fy rôl i fel yr ystadegydd oedd gweithio gydag arweinwyr polisi i ddatblygu pynciau’r holiaduron. Roeddwn i newydd adael y brifysgol a dysgais i’n fuan iawn popeth am arolygon a chyflwr tai. Gwybodaeth rwy’n bwriadu ei defnyddio eto yn fy rôl newydd yn Cartrefi Dinas Casnewydd.

Blog

Dysgais i hefyd fod ffordd gywir a ffordd anghywir o gyflwyno data. Hoffwn fod wedi gweld ein canllaw i Cyflwyno Data yn gynt gan fod traethawd estynedig fy Noethuriaeth bron yn enghraifft berffaith o sut i beidio â chyhoeddi tablau a siartiau! Dros y blynyddoedd rwyf wedi rhoi llawer o gyngor am wella cyflwyniad data yn ogystal â chyflwyno cyrsiau hyfforddiant. Mae’r cylch wedi’i gwblhau gan fod bwriad gennym ni i ailwampio’n holl Ganllawiau Arfer Da eleni. Mae’n debyg nad yw’r angen am gyngor da byth yn mynd i ffwrdd.

Fel rhan o’r Adran Ystadegau ac Arolygon, roeddwn i’n rhan o’r peilot Niofio Am Ddim a sbardunodd fy niddordeb mewn ymchwil gymdeithasol. BlogMae’r cynllun yn dal i fynd rhagddo’n gryf ac yn ein hatgoffa’n gyson o rym polisi i newid diwylliant a chyfleoedd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd yn yr angen am ymchwil gymdeithasol o’r radd flaenaf i gyfrannu at y cylch polisi ac rydym wedi cyflwyno mwy o rolau ymchwil gymdeithasol. Rwyf wedi datblygu’n Strategaeth Ymchwil Gymdeithasol a’n nod yw gwneud mwy byth o gyfraniad yn y dyfodol.

Yn gryfach gyda’n gilydd

Ymhell cyn cyflwyniad Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, roeddem ni’n gweithio’n gydweithredol. Pleser mawr gen i oedd bod ar ystod o grwpiau rhwydweithio ac ymgynghorol gyda chydweithwyr o lywodraeth leol a chanolog. 

Bydd gan Bwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru le arbennig yn fy nghalon i byth. Rwyf wedi dysgu cymaint, cwrdd â phobl mor ddiddorol, wedi cael f’ysbrydoli a’m cefnogi. Rwyf bob amser wedi dod o’r cyfarfodydd hynny gyda rhestr hirfaith o bethau i fynd ar eu trywydd neu i’w rhannu â’m cydweithwyr. Roedd y dyddiau hynny’n blino ac yn ysgogi rhywun yn yr un modd. Bydd llond plât ochr fychan iawn yn f’atgoffa i o faint llwyddom ni i’w gwmpasu mewn cyfarfodydd mor fach!

Mae Cymru wedi dod ynghyd ar achlysuron niferus i greu data sy’n benodol i Gymru ac mae cyflwyniad Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn 2005 yn enghraifft berffaith o hyn. Rwyf wedi bod yn rhan o gyfrifo dangosyddion, gan dreulio wythnos yn swyddfeydd y Gwasanaeth Prawf yn gweithio ar ddata sensitif troseddwyr, ac yn cynghori ar ledaenu’r canlyniadau. Rwy’n rhyw deimlo y byddaf yn parhau i gymryd rhan drwy ddefnyddio’r data a hyrwyddo defnyddioldeb mynegai sydd wedi’i adeiladu cystal.

Blog

Rhaid mi wenu wrth nodi y byddaf yn gweithio gyda Safon Ansawdd Tai Cymru yn fy rôl newydd. Yn ystod Arolwg Cyflwr Tai 2004, gweithiais i’n agos gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru a HouseMark i ddod o hyd i ffordd o fesur y safon uchelgeisiol hon. Yn 2018, mae 91% o dai cymdeithasol yn cydymffurfio, sy’n cymharu â ffigur o 0.8% a adroddwyd yn 2004!

Rwy’n aros ar weithgor yr Adnodd Dadansoddi Ystadegau Tai er mwyn parhau i gyfrannu at ystadegau tai Cymru. Bydd gan Data Cymru gynrychiolaeth o hyd ac edrychaf ymlaen at greu cysylltiadau ehangach rhwng Cymdeithasau Tai a llywodraeth leol o ran data.

Gadael fy ôl

Erbyn 2006 roeddwn i’n disgwyl fy mhlentyn cyntaf, cyfnod nerfus a chyfnod gwahanol iawn yn nhermau hawliau mamolaeth. Dychwelais i i’r gwaith ar ôl dim ond chwe mis ac yn fuan ar ôl hynny roedd y tîm Amgylchedd Data Ehangach yn ymestyn. Ysgwyddais i rôl i gefnogi mynediad i ddata ac ystadegau poblogaeth. Roeddwn i’n meddwl fy mod yn gwybod am y rhan fwyaf o’r data a oedd ar gael erbyn yr adeg hon, ond cefais fy mhrofi’n anghywir! Roedd cymaint yn fwy nag oeddwn wedi dychmygu. Daeth i’r amlwg bod rhaid i ni wneud mwy na dim ond cyhoeddi CD o ddata i helpu cydweithwyr llywodraeth leol i ddod o hyd i’r hyn roedden nhw’n chwilio amdano.

Yn 2009 cafodd f’ail blentyn ei eni ychydig i wythnosau’n unig cyn i fy mhlentyn yr Uned Ddata, sef InfoBaseCymru, gael ei eni! Er na allaf honni mai fi bathodd yr enw, testun balchder mawr yw fy mod yn ei ystyried yn ateb i anghenion data cynifer o bobl. Eleni yw 10fed pen-blwydd InfoBaseCymru ac mae gennym ni gynlluniau i’w wella a’i hyrwyddo. Mae’n dal i fynd o nerth i nerth a bydda i’n parhau i’w ddefnyddio fel fy man cychwyn, gan edrych ymlaen at fod y cwsmer, rhywun rydym ni mor awyddus i’w ddeall.

Y da, y drwg a’r hyll

Os InfoBaseCymru yw’r peth da, yna fe fu’r drwg a’r hyll hefyd yn bendant! Mewn arolygon cyflwr tai, defnyddion ni ddull y da, y drwg a’r hyll i roi llawer o dai “hyll” neu ansawdd gwaeth i ni eu rhoi yn y sampl. Mae hyn yn golygu y cawn fesur ansawdd tai yn fwy cywir ac felly targedu adnoddau at welliant.

Mae hyn yn wir am waith ystadegol hefyd. Po fwyaf o brosiectau o natur ddyrys rydych chi’n gweithio arnyn nhw, gorau i gyd byddwch chi fel ystadegydd. Gyda hyn mewn cof, edrychaf yn ôl  gyda phleser ar y gwaith i bartneriaeth GanBwyll i ddadansoddi camerâu cyflymder traffig. Roeddem ni’n gwybod y byddai’n bwysig iawn taro’r nod gyda hwn. Roedd yn rhaid i ddulliau fod yn gwbl gywir a’r manylion yn gwbl briodol. Rhyddhad felly oedd i’r canlyniadau gael eu dilysu gan Athro yn y maes. Wrth gwrs, nid oedd pawb yn hapus gyda’r canlyniadau, na’r dulliau. Roedd sgyrsiau ag ymgyrchydd a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn destun pryder i mi, ond hefyd gwnaethan nhw’n cyfrifoldebau ni wrth gynhyrchu deunydd o’r fath yn eglur.

Blog

Mae’n debyg bod ein gwaith i Chwaraeon Cymru yn dod i mewn i bob un o’r tri chategori gan iddo roi pleser a phoen i fi a’r tîm dros y blynyddoedd. Rwyf wedi gweithio ar arolygon Oedolion Egnïol a Chwaraeon Ysgol ers 2012. Roedd y gwaith yn golygu dadansoddi’r samplau data anferth a chynhyrchu miloedd o dablau lledaeniad. Bob tro cafodd y gwaith ei gynnal roedd gwelliannau o ran y dulliau a ddefnyddiwn ac wedi amlygu’r angen i mi ddod â chynifer o sgiliau at y gwaith. Dyma’r prawf pennaf ar reoli prosiect o ran cadw at amserlenni, cyllidebau ac anghenion sy’n newid. Mae angen dealltwriaeth fanwl o’r ystadegau rydych chi’n gweithio gyda nhw ac mae’r gallu i drin a thrafod symiau mawr o ddata yn hanfodol. Dyma un o’r ychydig o ddarnau o’m gwaith sydd wir yn cyrraedd penawdau’r newyddion. Diolch i gyhoeddusrwydd mawr gan Chwaraeon Cymru, mae llawer o straeon newyddion (Saesneg yn unig) sy’n dangos gwerth a defnydd data rwyf innau’n helpu i’w ddarparu.

Mesur amser

Mae ystadegwyr yn cyfrif, neu felly a ddwedodd y bathodyn a ges i o gynhadledd y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol yng Nghaerdydd y llynedd. Diolch i gefnogaeth Data Cymru a enillais i statws Ystadegydd Siartredig (Saesneg yn unig). Rwyf wedi ymdrechu i wneud y datblygiad proffesiynol parhaus mae ei angen ac i gadw fy sgiliau’n gyfredol.

Blog

Mae’n wir bod ystadegwyr wrth eu bodd yn cyfrif popeth. Dyna un o’r pethau sydd gennyf yn gyffredin â’m cydweithwyr yn Data Cymru. Rydym yn cofnodi amser cyflogeion a phrosiectau, rhywbeth sydd wedi bod yn faich ac yn fantais yn ystod fy mywyd gwaith. Ar y naill law, rydych chi’n hynod o ymwybodol o’r munudau rydych chi’n eu treulio yn ceisio datrys rhywbeth, ond ar y llaw arall, gallwn ymfalchïo yn y gwerth am arian rydym ni’n ei ddarparu a dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd i hybu gwella. Mae defnyddio’r math yma o ddata gweinyddol mewn ffyrdd gwahanol yn ffocws i mi ers ychydig o flynyddoedd. Wrth ddatblygu’n strategaeth fusnes yn ddiweddar, fues i’n hyrwyddo’r angen i adeiladu’n capasiti o ran gwyddor data. Mae’n un o’r teitlau newydd rhywiol hynny sy’n cael ei ddefnyddio; erbyn hyn mae dadansoddwyr yn cael eu galw’n wyddonwyr data yn amlach, ac mae eu llais yn cael ei wrando’n fwy o’r herwydd.

Blog

Dechreuais i fy mywyd gwaith gyda diddordeb mewn rhaglennu ac rwy’n parhau i’w wneud, ond codio yw f’enw arno fe nawr. Rwy’n myfyrio ar y ffaith fy mod o bosib yn wyddonydd data erioed, ond doeddwn i ddim yn gwybod yr enw ar hynny! Rydym ni wedi cymryd ymlaen mwy o gydweithwyr gwyddor data erbyn hyn ac wedi cynhyrchu Strategaeth Gwyddor Data i integreiddio hyn ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud. Gwn y bydd Data Cymru yn mynd o nerth i nerth yn y maes hwn ac y bydd fy sgiliau i’n cael eu defnyddio i gefnogi fy sefydliad newydd wrth iddynt gychwyn ar eu taith nhw.

Y pethau cyson diwyro

Yr un peth sy’n aros yn ddigyfnewid yw bod rhaid i bopeth newid. Mae hyn yr un mor wir am y gwaith a’r bobl.

Blog

Ymunais â Data Cymru wrth i ganlyniadau Cyfrifiad 2001 gael eu rhyddhau ac roeddem ni’n cynnal sioe deithiol i hyrwyddo’r canlyniadau. Ar gyfer Cyfrifiad 2011 roeddwn i ar Grŵp Ymgynghorol y Cyfrifiad Cymru gan helpu i gynhyrchu adran Gymraeg yn InfoBaseCymru. Ar gyfer Cyfrifiad 2021 rwyf ar yr un grwpiau i gynghori ar y gwaith dull digidol diofyn, a byddaf yn cymryd diddordeb wrth i mi gwblhau fy ddurflen ar-lein. Rwy’n cynghori hefyd ar weddnewid y cyfrifiad i Gyfrifiad Data ar Sail Gweinyddiaeth. Drwy hyn bydd defnydd ehangach ar ddata sy’n cael ei gasglu fel rhan o’r drefn, ac o bosibl yn dileu’r angen am gyfrifiad traddodiadol. Mae hyn yn dangos o ddifrif nad yw dim yn aros yn union yr un peth.

Wrth i bobl yn y sefydliad barhau i fynd a dod, braint i mi yw fy mod wedi gyda phobl ardderchog yn Data Cymru drwy gydol fy 16 o flynyddoedd. Dyna un o’r ychydig o bethau sydd heb newid. Rydym ni wedi chwerthin, crïo a rhannu’r pethau da a drwg sydd ynghlwm wrth bob swydd. Mae wedi bod fel teulu i mi. Rydym ni wedi symud cartref mwy nag unwaith, ond mewn ffordd Gymreig nodweddiadol, ‘dyn ni ddim wedi symud yn bell. Er gwaethaf bod mewn tri adeilad gwahanol a chael desgiau di-rif (yn bennaf oherwydd ein polisi desgiau poeth) bu gen i’r dechnoleg orau wrth fy mysedd drwy’r amser i’m galluogodd i wneud fy ngwaith. Ar y cyd â brwdfrydedd, creadigedd a deallusrwydd y bobl, dyna’r fformwla fwyaf llwyddiannus i’m helpu i dyfu a ffynnu.

Gwersi a ddysgwyd neu ddysgu’n gyson?

Blog

Rwyf wedi bod yn meddwl yn ddiweddar am Ikigai (Saesneg yn unig), sef fy rheswm dros fod. Mae’n cyfuno amrywiaeth o feysydd ac yn eich helpu i nodi’r hyn rydych chi’n ei wneud yn dda i’ch helpu i fyw bywyd llawn a ffyniannus. Yn Ysgol Haf Academi Cymru yn 2018 gofynnwyd i ni roi hashtag i’n hunain. Fy newis i oedd #dysgu’ngyson. Rwy’n credu bod hynny’n crynhoi pwy ydw i, er bod fy awch i ddysgu’n aros yn anniwall, mae gennyf gymaint yn fwy i’w roi a gwn hefyd fod fy nymuniad i addysgu yno’n gyson.

O’m dyddiau ôlraddedig yn addysgu SPSS i feddygon i ddarparu cyrsiau hyfforddiant am arolygon a data ac i ffocws mwy diweddar ar gyflwyno modiwlau i israddedigion, rwy’n dal i gwblhau’r cylch ac adborthi’r hyn rwyf innau wedi ei ddysgu drwy addysgu eraill. Dyna fy natur i, rwy’n credu. Rwyf wedi sylweddoli fy mod yn dwlu ar ddata a bod angen i mi barhau i helpu pobl eraill i deimlo’r un peth am ddata hefyd.

Taith yw bywyd a thrwy’r daith rydym ni’n ennill profiad. Mae f’angen i dyfu wedi fy ngweud yn ddigon dewr i ymadael â swydd hynod o foddhaus ac amrywiol. Rwy’n ymadael gyda synnwyr o falchder a chyrhaeddiad a’r wybodaeth bod popeth sydd yno i’w wneud o hyd mewn dwylo diogel. Mae angen i mi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y profiad hwn a dymuno pob lwc i’r sawl sydd ar ôl. Gwn y byddant yn parhau i weithio’n ddiwyro mewn meysydd a fydd yn agos at fy nghalon i am byth.

Byddaf yn parhau i gadw mewn cysylltiad â Data Cymru a gobeithio y bydd ein llwybrau’n croesi eto gan fod byd data wir yn un bach iawn.

Ynglŷn â’r awdur

Dr Jenny Murphy

Roedd gan Jenny, ein huwch ystadegydd yn Data Cymru, gyfrifoldeb cyffredinol dros ein gwaith lledaenu data, arolygon a dadansoddi.

16/04/2019